Newyddion

Digwyddiad ar-lein i gefnogi ceiswyr gwaith yn ne-ddwyrain Cymru

Wedi ei bostio ar Monday 22nd March 2021

Bydd digwyddiad rhithwir am ddim yn cael ei gynnal ddydd Mercher 24 Mawrth i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy'n chwilio am gyfleoedd gwaith yn ne-ddwyrain Cymru.

Bydd y digwyddiad, o'r enw Cyfleoedd De-ddwyrain Cymru, yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 10am a 12pm, ac mae'n ddigwyddiad partneriaeth rhwng Cymru'n Gweithio (a ddarperir gan Gyrfa Cymru), yr Adran Gwaith a Phensiynau a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Bydd y bobl sy'n mynychu'r digwyddiad yn gallu pori drwy amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant gwych sydd ar gael ledled de-ddwyrain Cymru, gan gwmpasu Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Bydd ceiswyr gwaith yn gallu siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr i ddarganfod mwy am y swyddi gwag sydd ar gael. Bydd sefydliadau cymorth cyflogaeth a darparwyr dysgu a hyfforddiant hefyd wrth law i ddarparu gwybodaeth am y cymorth y gallwch fanteisio arno i'w helpu i gael un o'r swyddi hynny.

Mae dros 80 o sefydliadau wedi cofrestru i fynychu’r digwyddiad, gan gynnwys Screen Alliance Wales, Celsa Manufacturing a Gwesty Hamdden y Celtic Manor.

Mae'r digwyddiad rhithwir yn dilyn llwyddiant Cyfleoedd Gogledd Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr, y cymerodd dros 5,000 o bobl ran ynddo yn fyw, gyda 6,700 arall yn gwylio'r digwyddiad ar gais. 

Gan siarad ar ran Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod o gabinet y Brifddinas-Ranbarth dros ddysgu, sgiliau a thalent ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae hon yn ffordd wych o arddangos amrywiaeth o gyfleoedd swyddi a hyfforddiant yn ddiogel ar draws de-ddwyrain Cymru.

“Rydym yn gweithio gyda’r llu o gwmnïau rhagorol a blaengar yn y rhanbarth i sicrhau bod pobl sydd â’r sgiliau cywir yn gallu cael eu paru â’r swyddi cywir. Mae hyfforddiant i helpu pobl i wella'r sgiliau hynny neu ddysgu rhai newydd hefyd ar gael.

“Mae cyflogwyr yn dal i recriwtio er gwaethaf y cyfnod heriol hwn ac mae hwn yn ddigwyddiad na ddylai'r rhai sy'n chwilio am waith neu sydd eisiau newid gyrfa ei fethu.”

Dywedodd Pennaeth Cyngor Cyflogaeth Cymru'n Gweithio, Mandy Ifans, “Mae cyfyngiadau Covid-19 yn dal i atal unrhyw ffeiriau gyrfaoedd neu ddigwyddiadau cyflogwyr rhag cael eu cynnal wyneb-yn-wyneb, ac mae ceiswyr gwaith a chyflogwyr yn dibynnu ar rith-sianeli i ddod o hyd i swyddi a llenwi swyddi gwag.

“Rydym yn falch iawn o allu cynnal y math hwn o ddigwyddiad ar-lein er mwyn parhau i ddarparu cymorth mawr ei angen i'r rhai sy'n chwilio am waith yn ystod y pandemig.

“Rydym yn gobeithio, drwy ddod â chyflogwyr a cheiswyr gwaith ynghyd, y gallwn helpu i wella rhagolygon cyflogaeth i bobl yng ne-ddwyrain Cymru mewn cyfnod anodd.”

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn cliciwch yma neu ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Cymru'n Gweithio.

Ar gael i unrhyw un dros 16 oed, mae Cymru'n Gweithio yn darparu gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd cyflogadwyedd un-i-un wedi'i deilwra, sy'n cefnogi pobl ledled Cymru i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, hyfforddi ac uwchsgilio ynghyd â darparu cymorth ar ôl colli swydd.

I gael cymorth a chyngor uniongyrchol gan Cymru'n Gweithio, ffoniwch y llinell ffôn bwrpasol 0800 028 4844, e-bostiwch [email protected], neu cysylltwch â'r tîm drwy negesydd Facebook neu sgwrs fyw, o 8am - 8pm ddydd Llun i ddydd Iau a 9am - 4.30pm ar ddydd Gwener.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.