Newyddion

Tiroedd ysgol a meysydd chwarae Casnewydd i fod yn ddi-fwg o heddiw ymlaen

Wedi ei bostio ar Monday 1st March 2021

Bydd tiroedd ysgol a meysydd chwarae ledled Casnewydd yn ddi-fwg o heddiw ymlaen yn dilyn cyflwyno cyfreithiau newydd.

Mae'r cyfreithiau, sy'n adeiladu ar y gwaharddiad ar ysmygu a gyflwynwyd yn 2007, yn gwahardd unrhyw un rhag ysmygu yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â thir ysbytai a mannau awyr agored lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant.

Gallai unrhyw un sy'n torri'r cyfreithiau newydd wynebu dirwy o £100.

Bydd cyflwyno'r cyfreithiau yn amddiffyn mwy o bobl rhag mwg ail-law, yn enwedig pobl ifanc, a hefyd yn helpu'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu unwaith ac am byth.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i wahardd ysmygu yn yr ardaloedd hyn, cam a fydd yn dad-normaleiddio ysmygu ac yn lleihau'r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf, gan achub bywydau yn y pen draw. 

Gall y rhai sy'n chwilio am gymorth i roi'r gorau i ysmygu gael mynediad i wasanaeth cymorth am ddim y GIG yng Nghymru, sef Helpa Fi i Stopio, ar 0800 085 2219 neu drwy fynd i www.helpafiistopio.cymru am gymorth a chefnogaeth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.