Newyddion

Mannau gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod ar draws Gwent

Wedi ei bostio ar Thursday 4th March 2021

Mae 62 uned gwefru cerbydau trydan cyflym deuol 22kW wedi'u gosod mewn 34 safle ar draws Gwent.

Mae'r prosiect wedi'i ddarparu mewn partneriaeth rhwng pum awdurdod lleol Gwent: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy. 

Rhoddwyd grant gwerth £465,000 ar gyfer y prosiect gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda chyllid cyfatebol gan bob awdurdod lleol. Ymgymerodd cwmni Cymreig, Silverstone Green Energy, â'r gwaith gosod, a fydd hefyd yn rheoli a chynnal a chadw'r mannau gwefru hyd at 2025.

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru arian tuag at astudiaeth ddichonoldeb i gefnogi datblygiad y prosiect.

Dyma le mae modd dod o hyd i'r mannau gwefru yng Nghasnewydd:

  • Faulkner Road
  • Hill Street
  • Maendy
  • Mill Parade
  • Glan yr Afon
  • Gorsaf drenau Tŷ-du
  • Parc Belle Vue
  • Stow Hill

Dywedodd y cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy, "Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i wneud ein dinas yn wyrddach, nid yn unig drwy ein gwaith i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030, ond hefyd drwy ymgymryd â mentrau seilwaith gwyrdd fel hyn.

"Rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn wedi treblu nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael i breswylwyr ac ymwelwyr, a gobeithiwn y bydd yn annog mwy o yrwyr yn y ddinas i ddewis cerbydau gwyrddach."

Dywedodd y cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd ac aelod cabinet y cyngor dros wasanaethau’r ddinas: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynyddu'n sylweddol y pwyntiau gwefru trydan sydd ar gael yn ein meysydd parcio diolch i'r cyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Mae hwn yn gam arall tuag at ein huchelgeisiau ehangach o greu amgylchedd iachach a gwyrddach."

I chwilio am fannau gwefru, defnyddiwch Zap Map https://www.zap-map.com/live/ a chwyddo i ardal yr awdurdod lleol perthnasol.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.