Newyddion

Cynllun tai arloesol yn cyrraedd rhestr fer gwobr gynllunio

Wedi ei bostio ar Friday 5th March 2021
Roberts Limbrick Architects

Courtesy of Roberts Limbrick Architects

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau mawreddog 2021 y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) am ragoriaeth mewn cynllunio.

Mae gwaith gan y timau cynllunio ac adfywio ar Central View yng nghanol y ddinas wedi ennill lle iddynt ar y rhestr fer am ragoriaeth mewn cynllunio yng nghategori'r cynlluniau bach.

Mae Casnewydd yn un o ddim ond dau gyngor yng Nghymru i gyrraedd rownd derfynol y gwobrau a ddenodd gynigion o bob rhan o'r DU yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae Central View yn gynllun tai o ansawdd uchel i bobl dros 55 oed yn Commercial Street a ddatblygwyd drwy ddefnyddio cyllid gan Gymdeithas Tai Pobl, y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwy'n falch iawn o'r holl staff a weithiodd mor galed i gyflawni'r cynllun. Mae wedi trawsnewid rhan o ganol y ddinas oedd wedi mynd i gyflwr gwael ac mae'n darparu tai fforddiadwy i'n dinasyddion.

"Mae'n rhan o'n gwaith adfywio parhaus i gyflwyno ffordd fwy cymysg o ddefnyddio canol y ddinas a gwella bywydau ein trigolion."

Dywedodd Llywydd RTPI, Wei Yang FRTPI: "Llongyfarchiadau mawr i bawb yn rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Cynllunio RTPI eleni - mae'r prosiectau, y timau a'r unigolion hyn yn arddangos y gorau o'r proffesiwn cynllunio o holl ranbarthau a chenhedloedd yr RTPI ac o wledydd ledled y byd.

"Ers dros 40 mlynedd, mae'r gwobrau uchel eu parch hyn wedi dathlu'r gwaith eithriadol sy'n cael ei wneud gan gynllunwyr trefi. Yng nghanol pandemig byd-eang, rwy'n credu eu bod yn fwy perthnasol nag erioed o'r blaen, gan gydnabod ymrwymiad ac ymroddiad anhygoel cynllunwyr sydd wedi ymateb i her effeithiau Covid-19 ar y system gynllunio."

Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod seremoni rithwir ddydd Iau 29 Ebrill 2021.

Mae'r RTPI yn hyrwyddo pŵer cynllunio i greu lleoedd llewyrchus a chymunedau bywiog. Dyma'r unig gorff yn y DU sy'n rhoi statws Siartredig i gynllunwyr, y cymhwyster proffesiynol uchaf y mae cyflogwyr yn gofyn amdano. Mae'n cefnogi ei aelodau - dros 26,000 ledled y byd - drwy gydol eu gyrfaoedd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.