IWD2021 Dewis Herio - Jane Mudd
Wedi ei bostio ar Monday 8th March 2021
Darllenwch am sut mae ein harweinydd, Cynghorydd Jane Mudd, yn dewis herio y #DRhM2021 hwn.
Pam mae hawliau cyfartal yn bwysig i mi
Rydym wedi teithio pellter mawr ac eto mae’r ffordd yn hir o’n blaenau. Mae rhagfarn yn dal i fod. Mae cymdeithas sy'n gwerthfawrogi pawb yn gymdeithas gyfartal - mae hawliau cyfartal yn elfen hanfodol o hyn.
Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sefydlu cymdeithas lle mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi waeth beth fo'u rhyw, hil, rhywioldeb neu gred.
Gallaf i chwarae rôl yn unigol yn mentora ac yn cefnogi menywod eraill i gyflawni eu potensial. Fel Arweinydd gallaf sicrhau bod cydraddoldeb, tegwch a charedigrwydd yn sail i'n gwaith fel awdurdod lleol.
Fel mam-gu, rwyf am i'm hwyres dyfu mewn byd lle nad yw ei rhyw neu rywioldeb yn diffinio neu’n cyfyngu ar y cyfleoedd a gaiff. Mae hawliau cyfartal yn bwysig gennyf i gan fy mod i eisiau i’w yfory hi fod yn decach na’n heddiw ni.
Sut rwy'n dewis herio
Fel arweinydd benywaidd awdurdod lleol gallaf herio drwy ddathlu a rhannu cyflawniadau menywod eraill.
Bûm i’n falch o arwain prosiectau celf gyhoeddus "Cofio Menywod Casnewydd" a "Saith Chwaer" yn Rhodfa Sant Pawl. Mae’r gwaith celf hwn yn deyrnged i 170 blynedd o frwydr menywod am ryddid dewis ac mae’n coffau rôl menywod Casnewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Crëwyd y gwaith celf hwn gan artist benywaidd, Stephanie Roberts, a defnyddiodd waith ymchwil un o’n haneswyr benywaidd, Sylvia Mason, fel sail. Gweithiodd dros 300 o ddinasyddion Casnewydd, menywod, pobl ifanc, dynion o amrywiaeth o grwpiau cymunedol gyda'i gilydd ar gysyniad y prosiect hwn.
Mae Rhodfa Sant Pawl yn ofod cymunedol, sy’n dathlu pob ‘Chwaer’. Mae hon yn gofeb barhaol i'r rôl y mae menywod wedi'i chwarae ac y maent yn ei chwarae yn ein dinas.