Newyddion

IWD2021 Dewis Herio - Cllr David Mayer

Wedi ei bostio ar Friday 12th March 2021

Yn ystod wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn clywed gan uwch swyddogion y cyngor ar pam rydym yn Dewis Herio anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Heddiw, dyma’r Cynghorydd David Mayer, yr aelod cabinet dros gymunedau ac adnoddau

“Ers degawdau lawer, fel undebwr llafur a chynghorydd, rwyf wedi hyrwyddo hawliau pob grŵp y cafodd eu lleisiau eu  heithrio o’r prosesau gwleidyddol. Bu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau’n fater parhaus ar draws lywodraeth genedlaethol a lleol, ond yng Nghymru rydym yn ffodus o gael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i weithio tuag at fod yn llywodraeth ffeministaidd, lle y rhennir pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal ar draws menywod, dynion a phobl anneuaidd.

Fel arweinydd cydraddoldebau ar y cyngor, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i herio unrhyw anghydraddoldebau sy’n bodoli yn ein harferion gwaith, ac i ddatblygu atebion arloesol sy’n seiliedig ar anghenion ein cymunedau. Mae bod â gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau yn parhau’n flaenoriaeth i ni ac mae’n allweddol i sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn gynhwysol.

Mae deddfwriaeth ar gyflog cyfartal wedi cael effaith sylweddol ar gynnydd ar draws y sector cyhoeddus, ac rwy’n falch o weld cynnydd y cyngor yn y maes hwn. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gyflwyno Cwricwlwm Newydd i Gymru a fydd yn ein galluogi i symud ymhellach i ffwrdd o stereoteipiau rhyw traddodiadol a sicrhau ymagwedd mwy cynhwysol at gydraddoldeb sy’n adlewyrchu ein dinas a’i gwerthoedd.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.