Newyddion

IWD2021 Dewis Herio - Carmen McKenzie

Wedi ei bostio ar Friday 12th March 2021

Yn ystod wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn clywed gan uwch swyddogion y cyngor ar pam eu bod yn Dewis Herio anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Heddiw, fe glywch gan Carmen McKenzie, swyddog gazetteer corfforaethol ac is-gadeirydd rhwydwaith staff Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y cyngor.

Fy enw i yw Carmen McKenzie, rwy'n gweithio i Ganolfan Wybodaeth Casnewydd fel swyddog gazetteer corfforaethol ac yn ddiweddar rwyf wedi dod yn is-gadeirydd ar rwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig y cyngor.

Mae hyn yn rhywbeth rwy'n angerddol iawn drosto gan fy mod wrth fy modd yn helpu a gwneud gwahaniaeth lle gallaf. Mae'r rhwydwaith yn darparu man diogel lle rydym yn dod at ein gilydd i sgwrsio, cefnogi ein gilydd, trafod syniadau ar gyfer newid cadarnhaol, a chael mewnbwn a dweud ei dweud ar bolisïau sy'n effeithio ar staff BAME.

Mae hawliau cyfartal yn bwysig i mi oherwydd teimlaf fod menywod wedi'u heithrio o sawl maes gwaith, cymdeithas a llywodraeth yn rhy hir, a dylid clywed eu lleisiau.  Ers gweithio i'r cyngor, mae gwelliannau wedi bod yn bendant ac mae'n wych gweld menywod mewn swyddi uwch. 

Mae'n bwysicach nag erioed bod merched ifanc yn gallu gweld, waeth beth fo'u nodau a'u dyheadau, y gallant gyflawni unrhyw beth mewn bywyd.

Fy swydd gyntaf erioed oedd gweithio mewn siop fwyd fach a hwn oedd y tro cyntaf i mi brofi gwahaniaethu ar sail rhyw. Roedd yn ofynnol i'r holl fenywod fynd ar y tiliau yn unig a pheidio â rhoi unrhyw stoc allan gan yr ystyriwyd ein bod yn wannach na'r dynion yn y siop.

Aeth grŵp o'm cydweithwyr benywaidd â hyn at fy ngoruchwyliwr a oedd yn digwydd bod yn wrywaidd ac ymddiheurodd am nad oedd hyd yn oed yn ymwybodol o'i ragfarn rhyw, ac yn ffodus newidiodd pethau. Erbyn diwedd fy nghontract, roedd y menywod yn y siop yn gallu gwneud amrywiaeth o rolau ac wedi dysgu sgiliau newydd. 

Nid yw byth yn rhy hwyr i newid a herio stereoteipiau, rolau ac ymddygiadau a nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i bob un ohonom ddewis herio anghydraddoldeb rhyw.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.