Newyddion

Profion Covid-19 yn parhau yn Nhŷ-du a Llysweri

Wedi ei bostio ar Tuesday 26th January 2021

Bydd unedau profi Covid-19 teithiol yn Nhŷ-du yn parhau i gynnig profion dros yr wythnos nesaf.

Os ydych yn teimlo’n gyffredinol sâl neu os oes gennych unrhyw symptomau o’r coronafeirws (Covid-19) – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl, dylech chi gael prawf cyn gynted â phosibl.

Mae rhai profion ar gael y gellir eu cael trwy alw heibio heb drefnu ymlaen llaw, neu i drefnu slot ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test

Os oes gennych symptomau, dylech chi ac unrhyw aelodau o’ch aelwyd hunanynysu ar unwaith. Dylai eich aelwyd gyfan barhau i hunanynysu tan dderbyn canlyniad y prawf. Os bydd y canlyniad yn bositif, dylai pob aelod o’r aelwyd a chyswllt agos barhau i hunanynysu am 10 niwrnod yn unol â'r canllawiau presennol.

Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith.

Lleoliadau ac oriau agor

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Maes Parcio Ganolfan Tenis a Pwll Nofio, NP19 4RA

Dydd Mawrth 26 Ionawr: 09:00-16:00

Dydd Mercher 27 Ionawr: 09:00-16:00

Dydd Iau 28 Ionawr: 09:00-16:00

Canolfan Gymunedol Rivermead, Fuchsia Way, Tŷ-du, Casnewydd NP10 9LZ

Dydd Gwener 29 Ionawr: 09:00-16:00

Dydd Sadwrn 30 Ionawr, 09:00-16:00

Dydd Sul 31 Ionawr:  09:00-16:00

Dydd Llun 1 Chwefror: 09:00-16:00

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Maes Parcio Ganolfan Tenis a Pwll Nofio, NP19 4RA

Dydd Mawrth 2 Chwefror: 09:00-16:00

  • Dylech gael prawf hyd yn oed os yw eich symptomau'n ysgafn iawn
  • Gwneir y prawf mewn 5 munud
  • Ar gyfer trigolion Casnewydd yn unig. Dewch â phrawf adnabod a phrawf o’ch cyfeiriad
  • Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac oddi yno
  • Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau, lleoedd eraill neu bobl eraill ar y ffordd i’ch prawf neu oddi yno
  • Dylech gadw 2 fetr ar wahân i bobl eraill
  • Cofiwch: os oes gennych unrhyw symptomau o’r coronafeirws, rhaid i chi a’ch aelwyd gyfan hunanynysu gartref nes i chi dderbyn eich canlyniadau prawf. Peidiwch â mynd i’r gwaith, peidiwch ag anfon eich plant i’r ysgol, peidiwch â chaniatáu ymwelwyr yn eich cartref a pheidiwch ag ymweld ag eraill. Arhoswch gartref nes i chi dderbyn canlyniad eich prawf.
  • Mae mesurau llym ar waith i'ch diogelu chi a'n staff ar y safle profi.
  • Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith

I drefnu prawf trwy ffenestr y car, neu i bobl sy'n byw y tu allan i Gasnewydd, ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.