Newyddion

Safle profi Covid-19 ychwanegol yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 22nd January 2021
self swab

Mae safle profi lleol (SPLl) yn agor yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn 23 Ionawr yn rhan o ymgyrch y llywodraeth i wella mynediad trigolion at brofion Covid-19.

Bydd trigolion Pilgwenlli yn gallu trefnu prawf yn y SPLl ym maes parcio'r hen Kwik Save yn 169 Commercial Road.

O ddydd Llun, bydd yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm. Mae'r safle profi yn gwasanaethu'r gymuned leol felly gall y rheiny sydd angen prawf gerdded i'r safle yn lle gyrru yno. 

Os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws (Covid-19) - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl, trefnwch brawf cyn gynted â phosibl.

Ffoniwch 119 neu ewch i  www.gov.uk/get-coronavirus-test

Os oes gennych symptomau, dylech chi ac unrhyw aelodau o'r cartref ynysu ar unwaith.  Dylai eich cartref cyfan barhau i ynysu nes y daw canlyniad y prawf i law. Os yw'r prawf yn bositif, dylai holl aelodau'r cartref a chysylltiadau agos barhau i ynysu am 10 diwrnod yn unol â'r canllawiau presennol.

Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i nodi safleoedd sy'n galluogi trigolion i gael prawf yn haws.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.