Newyddion

Cydweithio i sicrhau bod Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant

Wedi ei bostio ar Friday 12th February 2021

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) - sy'n cynnal Cyfrifiad 2021 - yn gweithio gyda (INSERT Local Authority) i gynnal cyfrifiad llwyddiannus a helpu gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion yn y dyfodol yn llawn.

Mae deall anghenion y genedl yn helpu pawb, o'r llywodraeth ganolog i sefydliadau lleol fel cynghorau ac awdurdodau iechyd, i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a Lloegr. Mae allbynnau'r cyfrifiad yn llywio ble caiff cyllid cyhoeddus ei wario ar wasanaethau fel trafnidiaeth, addysg ac iechyd - ar lwybrau beicio, ysgolion a deintyddfeydd.

Bydd y cyfrifiad, a gaiff ei gynnal ar 21 Mawrth 2021, yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a'r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu'r wlad yn dilyn pandemig y coronafeirws a gadael yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau bosibl.

Bydd cartrefi yn dechrau cael llythyrau a fydd yn cynnwys codau ar-lein ym mis Mawrth yn esbonio sut y gallant gwblhau eu cyfrifiad ar-lein. Gall pobl hefyd ofyn am holiadur papur os byddai'n well ganddynt gwblhau'r cyfrifiad y ffordd honno. Mewn ardaloedd lle rydym yn rhagweld y bydd llai o bobl yn cwblhau'r cyfrifiad ar lein, bydd tua 10% o gartrefi yn cael ffurflen bapur draddodiadol drwy'r post.

Mae digon o help ar gael, a gall pobl gwblhau'r cyfrifiad dros y ffôn hefyd gyda chymorth gan staff wedi'u hyfforddi yng nghanolfan gyswllt SYG y gellir ei ffonio am ddim. Mae SYG yn bwriadu cynnig cymorth wyneb yn wyneb i gwblhau'r cyfrifiad ar lein drwy Ganolfannau Cymorth y Cyfrifiad lle mae'n ddiogel gwneud hynny.

Dim ond ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad y bydd prif weithrediad maes y cyfrifiad yn dechrau, lle bydd swyddogion yn cysylltu â'r rhai nad ydynt wedi ymateb. Ni fydd staff maes byth yn mynd i mewn i dai pobl; byddant bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac yn gweithio yn unol â holl ganllawiau'r llywodraeth. Byddant yn gweithredu mewn ffordd debyg i weithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd.

Bydd Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint y cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Bydd y canlyniadau ar gael mewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw dan glo am 100 mlynedd, yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Am ragor o wybodaeth a chyngor ar sut i ateb y cwestiynau, ewch i cyfrifiad.gov.uk.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.