Newyddion

Gwaith yn dechrau ar lwybrau teithio llesol newydd Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 4th February 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dechrau gwaith ar ddau lwybr teithio llesol newydd yn y ddinas.

Bydd y llwybrau ym Mharc Tredegar ac Ynys y Mwnci yn ychwanegu at rwydwaith teithio llesol presennol y ddinas, gan roi mwy o gyfleoedd i breswylwyr deithio naill ai ar droed neu ar feic.

Bydd llwybr Parc Tredegar yn rhedeg drwy'r parc ac ymlaen drwy'r isffordd i gerddwyr i greu cyswllt â'r hen gwrs golff ger yr A48.

Bydd y llwybr hefyd yn defnyddio'r un goleuadau lefel isel ag sydd wedi'u gosod ar y llwybr teithio llesol a gwblhawyd yn ddiweddar ym Mharc Coed Melyn, a gynlluniwyd wrth ystyried yr amgylchedd ac i leihau effeithiau'r goleuadau ar fywyd gwyllt.

Mae'r gwaith ar ramp Ynys y Mwnci hefyd wedi dechrau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.

Bydd y llwybr trwy Ynys y Mwnci yn cynnwys pont newydd heb lonydd ar wahân i gysylltu troedffordd ogleddol y briff ffordd, y man agored a’r ystâd dai fel nad oes rhaid i bobl ddefnyddio’r nifer o groesfannau ar gyffordd y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol.

Bydd hefyd yn rhoi llwybr diogel a chynhwysol o lwybr cylchol y ddinas ar lan yr afon i’r ardaloedd masnachol a phreswyl yn Llyswyry yn ogystal a’r cysylltiadau newydd ar Corporation Road a gafodd eu gosod yn gynharach eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor: "Rwy'n falch ein bod yn gallu cyhoeddi dechrau'r gwaith ar lwybrau teithio llesol diweddaraf Casnewydd.

"Mae Parc Tredegar yn un o'n safleoedd mwyaf poblogaidd, ac rydym yn obeithiol y bydd y llwybr newydd yma yn cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â'r parc yn rheolaidd.

"Mae hefyd yn braf gweld y gwaith yn dechrau ar Ynys y Mwnci, a fydd yn cynnig cyswllt llawer gwell o dde’r ddinas i ganol y ddinas, gan helpu trigolion i osgoi'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol brysur iawn sydd wedi bod yn destun nifer o ddamweiniau ffyrdd yn y man penodol hwn.

"Rydyn ni eisiau i fwy o bobl yng Nghasnewydd gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byrion, a byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion a rhanddeiliaid ar gynyddu ein rhwydwaith teithio llesol i annog hyn." 

Bydd y gwaith ym Mharc Tredegar yn achosi mân aflonyddwch: bydd llwybrau troed ar gau gyda llwybrau’n cael eu dargyfeirio ac arwyddion ynglŷn â hynny, a bydd amwynderau hamdden yn y parc ar gau drwy gydol y gwaith.

Mae'r cyngor hefyd wrthi'n ymgynghori â thrigolion ar y map rhwydwaith teithio llesol yng Nghasnewydd.  Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar lwybrau teithio llesol presennol, gwelliannau posibl i'r llwybrau hyn, a lle yr hoffai trigolion a rhanddeiliaid i lwybrau newydd gael eu sefydlu. 

Gall preswylwyr ymweld â'n tudalen ymgynghori nawr i ddweud eu dweud.