Newyddion

Casnewydd yn addo cefnogaeth i 'No Mow May'

Wedi ei bostio ar Thursday 29th April 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi addo ei gefnogaeth i ymgyrch No Mow May Plantlife.

Mae’r ymgyrch yn annog unigolion, cynghorau a rhanddeiliaid i helpu gwenyn, ieir bach yr haf a bywyd gwyllt arall drwy adael i flodau gwyllt dyfu ar lawntiau a mannau gwyrdd drwy gydol mis Mai yn hytrach na’u torri.

Mae’r cyngor wedi addo ei gefnogaeth i gydnabod ein statws fel Dinas sy’n Caru Gwenyn, a’n dyletswydd i wella natur a chymryd camau gweithredu i helpu i wrthsefyll effaith newid yn yr hinsawdd.

Mae’r penderfyniad i gefnogi’r ymgyrch yn dilyn treialon llwyddiannus o fesurau gwahanol o reoli glaswellt, a chymysgeddau hadau blodau gwyllt gwahanol yn ein safleoedd peilot ‘gadael i dyfu’ dynodedig.

Mae’r treialon llwyddiannus wedi ein galluogi i addasu ein dulliau a’n hamserlenni rheoli glaswellt, a chynyddu ein capasiti i roi newidiadau cynaliadwy ar waith, sydd o fudd i natur ac i bobl. 

O ganlyniad, bydd amserlenni torri rheolaidd ar draws y ddinas yn dechrau ym mis Mehefin. Bydd torri glaswellt yn digwydd o hyd cyn mis Mehefin mewn nifer o leoedd er mwyn:

  • Cynnal gwelededd ar gyfer defnyddwyr y ffordd
  • Cadw arwyddion traffig a llinellau golwg yn glir
  • Cynnal ymylon a mynediad ar lwybrau troed a llwybrau beicio
  • Cynnal parciau, meysydd chwaraeon, safleoedd mynwentydd a mynediad at fannau gwyrdd chwarae a hamdden

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor: “Rwyf wrth fy modd i gyhoeddi cefnogaeth Casnewydd ar gyfer ‘No Mow May’.

‘O osod paneli solar ar adeiladau’r cyngor i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya newydd, rydym yn cymryd llawer o gamau rhagweithiol fel awdurdod i sicrhau bod Casnewydd yn lle gwyrddach ac iachach i fyw ynddo, ac mae ein cefnogaeth ar gyfer ‘No Mow May’ yn un arall o’r camau hynny.

“Rydym yn cydnabod bod dyletswydd arnom i helpu i gynyddu bioamrywiaeth, a thrwy gefnogi’r ymgyrch hon rydym yn dangos ein hymrwymiad i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol i bobl a bywyd gwyllt ein dinas.”

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith rheoli glaswellt a ‘No Mow May’, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Leisure-Tourism/Countryside--Parks/Biodiversity/Bee-friendly-grass-management.aspx