Newyddion

Ceisiadau ar agor nawr ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Wedi ei bostio ar Thursday 22nd April 2021

Gwahoddir ceisiadau i Cronfa Adfywio Cymunedol y DU nawr ar gyfer prosiectau yng Nghasnewydd.

Bydd y Gronfa yn cefnogi pobl a chymunedau sydd â'r angen mwyaf ledled y DU, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol.

Bydd ceisiadau i CAC DU yn cael eu cydlynu gan awdurdodau lleol ledled y DU. Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ceisiadau am brosiectau yng Nghasnewydd.

Dydd Gwener 21 Mai 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut i wneud cais ar wefan y cyngor  http://www.newport.gov.uk/cy/Business/Financial-assistance/Grants/UK-Community-Renewal-Fund.aspx