Newyddion

Gallech chi newid bywyd plentyn

Wedi ei bostio ar Monday 19th October 2020
Fostering-8-W-940x788

Yr hydref hwn a allech chi wneud gwahaniaeth a allai bara am oes?

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn chwilio am bobl ymroddgar a gofalgar i gynnig cartref diogel a chariadus i blant a phobl ifanc leol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet dros wasanaethau cymdeithasol: "Yn y cyfnod anodd hwn, mae'n bwysicach nag erioed bod plant yn teimlo'n ddiogel.

Yn ystod pandemig y coronafeirws, mae staff Maethu Casnewydd wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'n gofalwyr maeth sy'n cadw plant yn ddiogel ac yn actif gartref. Mae hefyd wedi dal ati i weithio gyda'r rheini sy'n dymuno dod yn rhan o'n rhwydwaith anhygoel o ofalwyr maeth.

"Mae'r gwaith gwych y mae ein gofalwyr maeth yn ei wneud wedi bod hyd yn oed yn bwysicach yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae arnom angen mwy o bobl i ofalu am bobl ifanc Casnewydd."

Er nad yw pethau union yr un fath y dyddiau hyn, mae ein tîm cyfeillgar yn dal i allu ateb eich cwestiynau a delio ag ymholiadau a'u prosesu.

Mae rhai plant a phobl ifanc angen cartref diogel a chariadus am gyfnodau byr, gan gynnwys aros dros nos, neu am gyfnod hwy nes iddynt ddod yn oedolion.  Mae angen gofalwyr maeth hefyd ar gyfer teuluoedd sydd am gael egwyl reolaidd neu untro.

Efallai bod eich plant eich hun wedi gadael y cartref neu rydych chi'n chwilio am newid bywyd. Gall dod yn rhiant maeth fod yn un o'r pethau mwyaf buddiol a wnewch erioed.

Rydym yn chwilio am bobl a all fod yn fodelau rôl cadarnhaol ac rhoi cymorth, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn i blant a/neu bobl ifanc.  Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Mae sawl ffordd wahanol o faethu gan gynnwys maethu pobl ifanc yn eu harddegau, bod yn ofalwr therapiwtig, gofalwyr seibiant, gofalwyr brys neu grwpiau maethu brodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol.

Cynigir cyfleoedd dysgu a datblygu i bobl sy'n dod yn rhan o'n teulu o faethwyr yn ogystal â chymorth ymarferol ac ariannol.  Bydd gennych eich gweithiwr cymdeithasol eich hun, a'r plentyn hefyd, a bydd rhywun bob amser i siarad ag ef os bydd angen hynny arnoch.

I gael gwybod mwy am fod yn ofalwr maeth gyda ni, ewch i https://fosterwales.newport.gov.uk/cy/ neu ffoniwch 01633 210272.

More Information