Newyddion

Gweithio gyda busnesau i'ch cadw'n ddiogel

Wedi ei bostio ar Monday 5th October 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Heddlu Gwent, yn gweithio'n agos gyda busnesau lleol i sicrhau diogelwch, iechyd a lles cwsmeriaid yn ystod pandemig Covid-19.

Ers dechrau'r pandemig, mae arbenigwyr mewn safonau masnach, trwyddedu ac iechyd yr amgylchedd wedi ymweld â channoedd o fusnesau ledled y ddinas gan roi cyngor ac arweiniad ar weithredu'n ddiogel ac o fewn y cyfreithiau a'r rheoliadau presennol.

Ar 22 Medi, cyflwynwyd cyfyngiadau pellach gan Lywodraeth Cymru yng Nghasnewydd yn dilyn cynnydd pryderus o ran achosion Covid-19. Ymhlith elfennau allweddol y cyfyngiadau hynny roedd:

  • rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i weini alcohol am 10pm
  • ni chaniateir i bobl fynd i mewn nac allan o ardal Cyngor Dinas Casnewydd heb esgus rhesymol
  • ni all pobl ffurfio, na bod mewn aelwyd estynedig mwyach, sy'n golygu na chaniateir cyfarfod dan do gydag unrhyw un nad yw'n rhan o'ch aelwyd chi (pobl rydych chi'n byw gyda nhw).

Mewn ymgyrch ar y cyd, gweithiodd Cyngor Dinas Casnewydd a Heddlu Gwent gyda'i gilydd i ymweld â safleoedd trwyddedig ledled y ddinas ddydd Sadwrn 26 Medi.

Rhoddodd tri thîm flaenoriaeth i wahanol ardaloedd - canol y ddinas, Dwyrain Casnewydd a gorllewin y ddinas a Chaerllion, gyda'r nod o ymweld â chymaint o safleoedd allweddol â phosibl a rhoi cyngor cydymffurfio ac ymdrin ag unrhyw faterion a nodwyd.

Ymwelwyd â thros 50 o safleoedd. Adolygwyd mesurau ymbellhau cymdeithasol, gofynion aelwydydd unigol, safonau tracio ac olrhain, cydymffurfiaeth gyffredinol â rheoliadau Covid a gofynion amser cau.

Er bod yr holl safleoedd trwyddedig yng nghanol y ddinas wedi cau erbyn 10.20pm, yn anffodus, gwelwyd llawer o achosion o dorri amodau mewn nifer o leoliadau a arweiniodd at gyhoeddi rhybuddion gwella i'r safleoedd canlynol:

  • AFC Caerllion
  • Cross Keys
  • Duffryn Arms
  • Gilligans
  • Man of Gwent
  • Red Lion
  • Tiny Rebel (Stryd Fawr)

Caiff rhybuddion gwella eu cyflwyno dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Rhoddir 48 awr i fusnesau gywiro'r materion a amlygwyd neu bydd camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn i gyhoeddi hysbysiadau cau.

Gellir gweld manylion llawn yr hysbysiadau yn www.newport.gov.uk/coronavirus

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Gwasanaethau Rheoleiddio: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau iechyd cwsmeriaid drwy weithio'n agos gyda'n busnesau lleol, gan eu helpu i weithredu mewn modd diogel. O ddiwrnod cyntaf y pandemig rydym wedi bod yn rhagweithiol yn ein dull gweithredu, gan ymweld â phob math o fusnesau wrth iddynt gael ailagor a darparu cyngor arbenigol.

"Yn anffodus, rydym bellach yn destun cyfyngiadau llymach eto ac mae'n bwysig ein bod yn gweld y gofynion hyn yn cael eu bodloni i atal achosion pellach yn ein dinas.

"Y penwythnos diwethaf gwelsom gydweithio rhagorol gyda'r heddlu - i'r ddau sefydliad ein dull ni o weithredu yw hysbysu a chefnogi, ond lle mae angen i ni wneud hynny, byddwn hefyd yn gorfodi.

"Byddwn yn parhau â'r dull hwn i sicrhau bod Casnewydd yn lle diogel."

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Hobrough: "Ers dechrau'r pandemig iechyd rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid lleol i ddiogelu a thawelu meddwl cymunedau Gwent.

"Rydym wedi bod yn ymgysylltu â busnesau i sicrhau eu bod wedi sefydlu mesurau diogel i ddiogelu'r cyhoedd ehangach.

"Diolch byth, mae'r mwyafrif wedi cymryd cyfrifoldeb ac wedi rhoi'r mesurau hyn ar waith.

"Yn anffodus, mae lleiafrif o fusnesau heb lynu wrth y mesurau pwysig hyn. Gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid mewn awdurdodau lleol rydym wedi cynnal gwaith gorfodi i ddiogelu'r cyhoedd.

"Mae'r neges yn glir, mae gennym i gyd ran i'w chwarae i atal lledaeniad y feirws hwn ledled Gwent."

Mae swyddogion wedi parhau i ymweld â safleoedd ers y penwythnos a byddant yn mynd ati eto ar draws y ddinas y penwythnos nesaf.

Mae enghraifft o gamau pellach sydd eu hangen ac sydd bellach yn cael eu cymryd yn ymwneud â Breeze (11-15 Cambrian Road). Cyhoeddwyd hysbysiad gwella yn flaenorol, ond mae adolygiad trwyddedu bellach wedi'i gyflwyno o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Mae'r adolygiad wedi'i alw ar sail atal troseddu ac anhrefn a diogelwch y cyhoedd, oherwydd bod y safle'n gweithredu ei ardal VIP gan ddiystyru'n llwyr mesurau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws, gan beryglu diogelwch y cyhoedd yn sgil hynny.

Bydd cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod (o 25 Medi) er mwyn caniatáu i bartïon sydd â diddordeb wneud sylwadau. Bydd yr adolygiad yn cael ei glywed gan is-bwyllgor trwyddedu'r Cyngor o fewn 20 diwrnod i ddiwedd yr ymgynghoriad.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.