Newyddion

Cymorth i deuluoedd

Wedi ei bostio ar Thursday 15th October 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyflwyno nifer o fentrau gyda'r nod o gadw plant yn ddiogel gyda'u teuluoedd i osgoi gorfod mynd i'r system ofal.

Mae staff y gwasanaethau plant wedi sefydlu pedair rhaglen newydd gan ddefnyddio arian grant Llywodraeth Cymru ac ailgyfeirio eu hadnoddau eu hunain.

Mae tîm bach Babi a Fi, sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a staff iechyd, yn gweithio gyda theuluoedd o gamau cynnar beichiogrwydd gyda phecyn cymorth dwys.  Y teuluoedd dan sylw yw'r rhai sydd mewn perygl mawr iawn o'u babanod yn cael eu tynnu oddi wrthynt ar enedigaeth, ac mae'r arwyddion cynnar mae'n yn awgrymu bod yr ymyriad yn llwyddiannus.

Mae cynadleddau grwpiau teulu yn gynllun a werthusir yn genedlaethol lle caiff teuluoedd eu cefnogi i ddod o hyd i ffyrdd o ymateb i heriau a rhoi cymorth.

Mae gweithwyr cyfryngu yn canolbwyntio ar gefnogi teuluoedd cyn gynted ag y cânt eu hatgyfeirio, yn enwedig y rheini sydd ag arddegwyr hŷn sy'n cael anawsterau. Maent hefyd yn gweithio gyda theuluoedd â phlant hŷn sydd wedi bod mewn gofal ers amser maith i weld a allant ddychwelyd adref yn ddiogel.

Yn y pedwerydd cynllun, mae tîm yn cefnogi teuluoedd estynedig sy'n gofalu am blant lle mae gorchmynion gwarchodaeth arbennig ar waith neu lle mae perthnasau wedi'u cymeradwyo fel gofalwyr maeth.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r pedwar cynllun hyn yn gweithio'n eithriadol o dda ac wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol gan deuluoedd.

"Y nod yw lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal ond bydd angen amser ar gyfer hyn.  Mae'r ffigurau yng Nghasnewydd wedi bod yn gymharol sefydlog ond mae llawer o'r ffactorau sy'n pennu a yw plentyn yn cael ei gymryd i ofal y tu hwnt i'n rheolaeth.

"Rydym yn credu y bydd pandemig y coronafeirws wedi cynyddu'r straen a'r pwysau ar rai rhieni a bydd rhai teuluoedd yn chwalu o ganlyniad.

"Rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i osgoi gorfod rhoi plant mewn gofal a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi teuluoedd i wireddu hynny. Fodd bynnag, cadw plant yn ddiogel yw ein prif flaenoriaeth, boed gartref, mewn gofal maeth neu mewn lleoliad preswyl.

"Rwy'n falch ein bod yn cynyddu ein darpariaeth breswyl yn y ddinas gyda dau gartref newydd eisoes wedi'u sefydlu a thrydydd un ar y ffordd. Mae hyn yn golygu y gallwn gadw plant Casnewydd yn y ddinas a'u cefnogi nhw a'u teuluoedd, i sicrhau'r deilliannau gorau posibl, yn enwedig i'r plant."

Yn ei gyfarfod diweddaraf, cymeradwyodd y cabinet adroddiad oedd yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru, y camau sy'n cael eu rhoi ar waith a'r heriau sy'n wynebu'r cyngor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.