Newyddion

Cael gwared ar fanciau ailgylchu o Tregwilym Road

Wedi ei bostio ar Wednesday 28th October 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu symud y banciau ailgylchu ar Tregwilym Road.

Yn anffodus, mae'r safle wedi dod yn fan broblemus ar gyfer tipio anghyfreithlon ac yn wraidd i broblemau i drigolion lleol, sydd wedi arwain at y cynnig i symud y banciau.

Er bod yr ardal yn cael ei monitro gan deledu cylch cyfyng, ac er gwaethaf ein hymdrechion i wagio'r banciau sawl gwaith yr wythnos, nid yw'r mater wedi gwella ac rydym wedi trefnu am y tro i gael gwared ar y banciau yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 23 Tachwedd.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi dirwyon am dipio anghyfreithlon yn y cyffiniau, gyda chyfanswm o 36 o achosion o dipio anghyfreithlon a 10 hysbysiad cosb benodedig am daflu sbwriel wedi'u cyhoeddi ar gyfer ardal Tregwilym eleni, y rhoddwyd nifer ohonynt i bobl sy'n byw y tu allan i Gasnewydd.

Mae gwella gwasanaethau a chasgliadau wrth ymyl y ffordd yn golygu bod banciau ailgylchu bach lleol yn cael eu defnyddio llai. Golyga hyn eu bod yn cael eu gwaredu yn raddol ledled Cymru.

Mae trigolion Casnewydd hefyd yn elwa o gasgliadau ailgylchu wythnosol wrth ymyl y ffordd, a gallant hefyd archebu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol ar-lein yn rhad ac am ddim.

Gellir mynd ag eitemau mwy neu wastraff nad ydynt yn cael eu casglu wrth ymyl y ffordd i'n canolfan ailgylchu gwastraff cartref yn rhad ac am ddim, a gellir trefnu casgliadau eitemau swmpus o’r cartref hefyd am ffi fach.

Gall unrhyw breswylwyr sydd â chwestiynau neu sylwadau am y cynnig hwn gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected].

More Information