Newyddion

Rhwydwaith staff BAME Cyngor Casnewydd yn cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon

Wedi ei bostio ar Friday 23rd October 2020

Mae grŵp rhwydwaith staff Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi dathliadau Mis Hanes Pobl Dduon eleni, a'r newid i ffocws 365 diwrnod ar gyfraniadau sylweddol cymunedau ac unigolion du at hanes a diwylliant Cymru.

Mae gan y cyngor raglen o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365, a bydd hefyd yn gweithio gyda grŵp rhwydwaith staff BAME ar nifer o fentrau yn y gweithle.

Mae'r rhwydwaith wedi nodi tair blaenoriaeth allweddol y byddant yn cefnogi'r cyngor â nhw dros y deuddeg mis nesaf:

•             gwella'r hyfforddiant y mae'r cyngor yn ei ddarparu ar gydraddoldeb a rhagfarn

•             adolygu polisïau'r cyngor mewn perthynas â gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle

•             creu gweithlu mwy cynrychioliadol sy'n adlewyrchu cymunedau Casnewydd.

Dywedodd Cadeirydd Rhwydwaith Staff BAME Casnewydd "rydym yn llwyr gefnogi'r symudiad eleni tua Hanes Pobl Dduon Cymru 365. Mae'n gyfle arbennig nid yn unig i gydnabod cyflawniadau ar draws pob agwedd ar ein bywydau ond hefyd i ddathlu hunaniaeth a phwy ydym ni.

"Mae gan yr hanes a addysgir i ni ran mor bwysig i'w chwarae wrth lunio sut mae pobl yn gweld cymunedau du a gall atgyfnerthu stereoteipiau negyddol parhaus a hybu hiliaeth. Mae'n bwysig bod yr hanes a ddysgwn yn onest ac yn adlewyrchu profiad pawb a fu o’n blaen, er mwyn i ni gael gadael fersiwn gywir i'r rhai a ddaw ar ein holau.

"Mae Mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, pandemig COVID-19 a'r achosion byd-eang diddiwedd o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol yn tynnu sylw at ddioddefaint dyddiol a phoenus cymunedau Du a chymunedau lleiafrifol gwahanol eraill.

"Mae Hanes Pobl Dduon 365 yn gyfle i bob un ohonom ddechrau cydweithio, gan sicrhau bod y naratif hanesyddol cenedlaethol yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol, er mwyn creu Casnewydd well a byd gwell."

Dywedodd y Cyng. Jane Mudd, arweinydd y cyngor, "Mae ein staff, a'n rhwydweithiau staff, yn chwarae rhan bwysig wrth helpu ein sefydliad i ddatblygu. Mae'r cyngor yn gwbl gefnogol i ymgyrch 365 Hanes Pobl Dduon Cymru ac rydym yn ddiolchgar i'n grŵp rhwydwaith staff BAME am y gwaith y byddant yn ei wneud i’n cefnogi gyda ni dros y deuddeng mis nesaf."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.