Newyddion

Cartref Cŵn Dinas Casnewydd yn mynd am aur

Wedi ei bostio ar Wednesday 21st October 2020
NDH button

Mae Cartref Cŵn Dinas Casnewydd wedi ennill aur yng ngwobrau PawPrint RSPCA Cymru 2020 am eu gwaith gyda chŵn crwydr.

Cynllun dyfarnu blynyddol yw PawPrints sy'n cydnabod arfer da gan gyrff cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid.  Mae nifer o gategorïau gan gynnwys; cydnabyddiaeth am ddarpariaeth cŵn crwydr, gwaith trwyddedu anifeiliaid, cynllunio wrth gefn a pholisïau tai.  Bernir pob categori ar feini prawf penodol ac mae safonau efydd, arian ac aur ym mhob un.

Fe wnaeth y Cynghorydd Ray Truman, yr aelod cabinet dros drwyddedu a rheoleiddio, longyfarch y tîm ar eu cyflawniad gan ddweud: "Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol am y gwaith diflino a wneir gan bawb yng Nghartref Cŵn Dinas Casnewydd.  Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn gysylltiedig a diolch am y gwaith yr ydych yn ei wneud i ddarparu amgylchedd diogel i'r cŵn yn eich gofal."

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gartref Cŵn Dinas Casnewydd, ewch i www.newport.gov.uk/newportdogshome

More Information