Newyddion

Mwy o finiau sbwriel ledled Casnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 7th October 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gosod dros 80 o finiau sbwriel newydd o amgylch y ddinas yn ddiweddar.

Mae'r symudiad yn rhan o ymrwymiad y cyngor i gynyddu'r ddarpariaeth biniau hyd yn oed ymhellach a lleihau lefelau sbwriel ar ein strydoedd dros y blynyddoedd nesaf. 

Mae biniau sefydlog newydd wedi'u gosod yn y wardiau canlynol:

•           Allt-yr-ynn

•           Alway

•           Betws

•           Beechwood

•           Gaer

•           Malpas

•           Ringland

•           Tŷ-du

•           Sain Silian 

Penderfynwyd ar leoliadau'r biniau hyn drwy ymgynghori â grwpiau casglu sbwriel gwirfoddol lleol, ceisiadau gan y cyhoedd a phrofiad ein tîm glanhau strydoedd, sydd wedi gwneud y gwaith gosod.

Mae nifer fach o'r biniau yn disodli biniau polyn llai er mwyn sicrhau mwy o gapasiti a mynd i'r afael â phroblemau lle mae biniau'n gorlenwi er gwaethaf gwagio rheolaidd.  

Bydd unrhyw finiau polyn llai sydd wedi'u disodli yn cael eu hadleoli i ardaloedd eraill ledled y ddinas.

Gofynnwn i'r cyhoedd ddefnyddio'r biniau hyn yn gyfrifol ac atgoffwn breswylwyr na ddylid eu defnyddio i waredu gwastraff y cartref.

More Information