Goleuo'r ddinas am Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod
Wedi ei bostio ar Monday 5th October 2020
Rydym yn goleuo tirnod y ddinas yn binc a glas i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod y DU.
Rhwng 9 a 15 Hydref, bydd y Bont Gludo eiconig yn cael ei goleuo bob nos mewn ymateb i gais gan breswylydd ac yn dilyn goleuo tŵr y cloc y llynedd.
Nawr yn ei 18fed flwyddyn, nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth am feichiogrwydd a marwolaeth babanod.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd, Jane Mudd: "Cytunais y dylem oleuo ein Pont Gludo eiconig ar ôl derbyn cais emosiynol gan breswylydd.
"Gallai weld y bont o'i hystafell yn yr ysbyty pan aeth hi a'i phartner drwy'r profiad ofnadwy o golli eu mab marw-anedig ddiwedd y llynedd.
"Rwy'n cydymdeimlo â nhw, eu teulu a'u ffrindiau, a phawb sydd wedi dioddef colled mor drist a thrasig. Yn ogystal â thristwch llethol, gall hefyd wneud i bobl deimlo'n ynysig a bydd hyn yn arbennig o ddwys o ystyried y cyfnod sydd ohoni.
"Mae'n bwysig eu bod yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain a'u bod yn teimlo bod cefnogaeth iddynt. Gobeithio y bydd goleuo un o dirnodau pwysicaf Casnewydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael."
Bydd trefnwyr Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod (9-15 Hydref) yn cyfeirio at bwnc gwahanol bob dydd ac yn annog pobl i rannu eu profiadau eu hunain https://babyloss-awareness.org