Newyddion

Gwybod eich hawliau fel gofalwr

Wedi ei bostio ar Tuesday 24th November 2020
CarerWheelchair

 

Mae’r coronafeirws wedi ychwanegu at y pwysau ar lawer o ofalwyr eleni ac mae llawer o bobl wedi cael eu hunain yn gofalu am y tro cyntaf o ganlyniad i'r pandemig.

Eleni, bydd Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn cael ei gynnal ddydd Iau 26 Tachwedd a bydd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr, yn tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu ac yn cydnabod eu cyfraniad at gymdeithas.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, yr Aelod Cabinet dros wasanaethau cymdeithasol: “Gall bod yn ofalwr fod yn werth chweil ond gall hefyd effeithio arnoch yn gorfforol ac yn emosiynol a gall gofalwyr deimlo’n ynysig yn aml. Fel gofalwr perthynas oedrannus, gwn o brofiad personol sut beth y gall gofalu am anwylyd fod.

"Mae'r Cysylltwyr Cymunedol bob amser wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth i ofalwyr drwy wahanol ddulliau, gan gynnwys ar-lein a dros y ffôn neu drwy e-bost ac mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael."

Gofalwr yw rhywun o unrhyw oedran sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na allai ymdopi heb ei gymorth. Gall hyn olygu gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, â salwch iechyd meddwl neu broblemau cam-drin sylweddau neu y mae angen ychydig yn fwy o gymorth arno wrth heneiddio.

Mae gan ofalwyr hawliau dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

  • Yr hawl i gael asesiad
  • Yr hawl i les
  • Yr hawl i gael bywyd y tu allan i ofalu
  • Yr hawl i gael llais

I gael rhagor o wybodaeth am hawliau gofalwyr ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfoeth o gymorth a gwybodaeth ar-lein i ofalwyr gan gynnwys manylion cyswllt tîm y Cysylltwyr Cymunedol. Ewch i www.newport.gov.uk/carers i gael rhagor o wybodaeth.

More Information