Newyddion

Gwaith Ffordd Caerllion - diweddariad

Wedi ei bostio ar Wednesday 18th November 2020

Bydd y gwaith i waredu coed yr effeithir arnynt gan glefyd coed ynn ar Ffordd Caerllion nawr yn rhedeg i mewn i ddechrau mis Rhagfyr.

Mae hyn yn dilyn y stormydd ddiwedd mis Hydref, pan stopiodd gwyntoedd uchel waith ar y safle dros dro, a thystiolaeth o rywogaethau sydd wedi’u diogelu dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

Mae hyn yn golygu bod archwiliadau ychwanegol bellach yn cael eu gwneud ym mhob ardal cyn torri coed er mwyn sicrhau nad oes unrhyw darfu ar rywogaethau a chynefinoedd.

Mae'r tîm bellach ar gam olaf y gwaith ac, yn dibynnu ar y tywydd, gobeithiwn y bydd wedi'i gwblhau ddechrau mis Rhagfyr.

Bydd ffyrdd yn aros ar gau a gwyriadau yn parhau ar waith yn ystod y cyfnod hwn, a bydd y cyngor yn parhau i ddarparu trafnidiaeth dros dro i'r ysgol i blant yn ardal Ffordd Caerllion. 

Bydd tŷ tafarn St Julian's Inn ar agor yn ystod y cyfnod hwn, ac mae mynediad iddo ar gael o ochr Caerllion i’r ffordd sydd ar gau.

Bydd preswylwyr sy'n byw yn yr ardal ehangach yr effeithir arni yn cael llythyr yn cynnwys rhagor o fanylion o fewn yr wythnos nesaf.

More Information