Newyddion

Ysgolion i fabwysiadu dysgu cyfunol yn ystod wythnos gyntaf y tymor

Wedi ei bostio ar Friday 18th December 2020

Bydd ysgolion Casnewydd yn cynnig dysgu cyfunol yn ystod wythnos gyntaf tymor y gwanwyn (wythnos yn dechrau dydd Llun 4 Ionawr 2021).

Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a CLlLC, ac yn cydnabod cyfraddau trosglwyddo uchel Covid-19 ar draws y ddinas ac effaith bosibl ar gapasiti'r gweithlu addysg ar ddechrau'r tymor newydd.

Bydd dydd Llun 4 a dydd Mawrth 5 Ionawr yn cael eu neilltuo i benaethiaid asesu lefelau staffio ac adolygu asesiadau risg. O ganlyniad, ni fydd cyfleuster i unrhyw blant fynychu'r ysgol ar y dyddiau hyn.

Rhwng dydd Mercher 6 a dydd Gwener 8 Ionawr 2021, bydd hybiau ar gael i blant gweithwyr hanfodol (meithrin i Flwyddyn 8) a phlant eraill ag anghenion penodol fel y'u haseswyd gan eu pennaeth.

Bydd plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn derbyn taleb yn lle darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gyfer yr wythnos hon.

Disgwylir i ddysgu wyneb yn wyneb ailddechrau ddydd Llun 11Ionawr 2021.

 

Diwedd

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.