Newyddion

Gwasanaethau'r Cyngor yn ystod lefel rhybudd 4

Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd December 2020

Gosododd Llywodraeth Cymru bob rhan o Gymru ar lefel rhybudd 4 o 00:00am ddydd Sul 20 Rhagfyr.

Mae manylion llawn y cyfyngiadau ar lefel rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a byddant yn parhau hyd nes y bydd nifer yr achosion yn gostwng.

Yn gryno:

  • Mae'r holl fanwerthu nad yw'n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, gwasanaethau hamdden, campfeydd, lletygarwch a llety gwyliau ar gau
  • Rhaid i ni ond fynd allan am fwyd, addysg, gofal, iechyd neu waith, os na allwn weithio gartref
  • Dim ond os yw'n hanfodol y dylen ni deithio
  • Rhaid i ni beidio â chwrdd â phobl nad ydym yn byw gyda nhw, naill ai dan do neu yn yr awyr agored. Gall person sy'n byw ar ei ben ei hun neu riant sengl ffurfio swigen gymorth gydag un aelwyd arall
  • Bydd y trefniadau Nadolig hamddenol nawr ond yn berthnasol ar Ddydd Nadolig yn unig, lle bydd dwy aelwyd yn gallu dod at ei gilydd 

Gallwch hefyd ddarllen y Cwestiynau Cyffredin Lefel 4

Bydd y cyfyngiadau newydd yn effeithio ar rai o wasanaethau'r cyngor, ond blaenoriaeth y cyngor fydd parhau â gwasanaethau hanfodol, cyfyngu ar darfu a chefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed drwyddi draw.

Am y diweddariadau diweddaraf ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/COVID-19-coronavirus/Coronavirus-COVID-19.aspx

More Information