Newyddion

Arweinwyr cynghorau'n galw am becyn cymorth i gynorthwyo dinasoedd

Wedi ei bostio ar Thursday 3rd December 2020
Jane Mudd 2

Mae arweinwyr y tri chyngor mawr yng Nghymru yn galw am becyn cymorth cynhwysfawr a sylweddol i helpu dinasoedd drwy'r pandemig.

Mae'r rheini sy'n arwain Cyngor Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Abertawe yn dweud er bod awdurdodau lleol yn cymryd camau gweithredu uniongyrchol, ac yn gwneud buddsoddiadau sylweddol o hyd, mae'r argyfwng yn effeithio'n wael ar ddinasoedd.

Daethpwyd â'r her i'r amlwg yr wythnos hon gan anawsterau cwmnïau manwerthu mawr Arcadia a Debenhams.

Mae Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe gyda'i gilydd yn cyflogi degau ar filoedd o bobl yn y sectorau manwerthu a lletygarwch.

Mewn datganiad ar y cyd, meddai'r Cynghorwyr Huw Thomas, Jane Mudd a Rob Stewart, arweinwyr cynghorau Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe:"Mae'r newyddion am Arcadia a Debenhams yn ergyd ddifrifol i ddinasoedd Cymru.

"Gallai'r cyhoeddiadau hyn o bosib gael effaith ddomino drychinebus ar fanwerthwyr eraill sy'n dibynnu ar nifer y siopwyr sy'n cael eu denu gan y siopau angor.

"Gallai'r effaith fod yn eang hefyd - os bydd y dinasoedd yn ei chael hi'n anodd, bydd pawb yn ei chael hi'n anodd.

"Mae angen pecyn cymorth cynhwysfawr a sylweddol i helpu dinasoedd drwy'r heriau."

 Cydnabu'r arweinwyr fod y pandemig wedi cael effaith ar bob cymuned. Fodd bynnag, dywedon nhw fod:

  • Y pandemig yn effeithio ar ddinasoedd yn waeth, ym mhob ffordd;
  • Mae ei effeithiau iechyd yn ddwysach ac yn fwy difrifol mewn dinasoedd;
  • Mae'r ymagwedd stopio-dechrau at yr economi yn cael effaith ddofn a niweidiol ar y sectorau manwerthu a lletygarwch sy'n nodweddu economïau dinasoedd;
  • Mae Cymru a'i rhanbarthau'n dibynnu ar ddinasoedd fel peiriannau twf economaidd.

 Meddent, "Fel cynghorau, rydym oll wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid manwerthu i'w helpu dros y misoedd diwethaf.

"Yn awr, fel dinasoedd, rydym yn hynod bryderus ynghylch yr effeithiau cynyddol posib ar ein perfeddwlad fanwerthu.

 "Mae ein strydoedd mawr wedi wynebu'r her gynyddol o siopa ar-lein - ac yn awr mae'r pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa.

"Ni allwn ganiatáu dirywiad heb ei reoli yng nghanol ein dinasoedd, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dylanwad sydd ganddi i ddiogelu canol ein dinasoedd.

"Mae hyn yn cynnwys cymorth ardrethi busnes yn ystod y pandemig a'r tu hwnt, cymorth grant cynyddol ar gyfer y sectorau manwerthu a lletygarwch a statws parth menter.

"Hoffem weld y 4edd Gronfa Adnewyddu'r Economi yn cael ei chyflwyno'n gynt ac yn canolbwyntio ar ganol ein dinasoedd a'n trefi.

“Canol ein dinasoedd yw peiriannau economi Cymru. Os ydyn nhw'n methu, mae Cymru'n methu.

"Mae canol ein dinasoedd ar y cyd yn cyflogi dros 100,000 o bobl ledled de Cymru, tua 1 o bob 8 swydd, a hynny heb ystyried y gadwyn gyflenwi ehangach.

"Mae'r argyfwng yng nghanol ein dinasoedd yn effeithio ar graidd economi Cymru, ac mae angen cymorth helaeth, ar frys gan y Llywodraeth i ysgogi adferiad.

"Nid oes angen dweud bod nifer mawr o fusnesau yng nghanol ein dinasoedd yn cyfrannu'n helaeth at yr economi ond hefyd at arian cyhoeddus Cymru, drwy eu hardrethi.

"Mae cymorth bellach yn hanfodol i gynnal cyd-allu ein dinasoedd i angori'r dinas-ranbarthau sy'n dod i'r golwg yng Nghymru."

Cefnogir yr alwad gan arweinwyr y cynghorau gan Ranbarthau Gwella Busnes sy'n cynrychioli dros 2,500 o fusnesau yng nghanol pob un o'r tair dinas.

Meddai Rhanbarthau Gwella Busnes BID Abertawe, FOR Caerdydd a NOW Casnewydd, "Mae busnesau wedi bod yn gwneud ymdrechion arwrol, ar draul bersonol fawr, i gadw'r economi i fynd a diogelu swyddi hanfodol - ond mae cynifer o berchnogion busnesau bellach ar ben eu tennyn neu'r tu hwnt i hynny.

"Gwyddwn unwaith y mae canol dinasoedd yn dirywio yn sgil busnesau'n mynd i'r wal, mai dyma'r ergyd farwol iddynt.

“Mae cymorth cyflym a hael, ynghyd a datblygu cynllun adferiad rhesymol drwy weithio gyda ni fel busnesau, yn hanfodol.

"Nid yw'n dderbyniol gadael i ganol dinasoedd ddirywio a marw, a byddai pecyn cymorth cynhwysfawr a sylweddol yn helpu canol dinasoedd i wynebu'r heriau hyn.

"Mae angen i'n Llywodraeth ddefnyddio pob dylanwad sydd ganddi'n awr i ddiogelu canol ein dinasoedd, a hynny'n gyflym.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.