Newyddion

Cynigion adfywio uchelgeisiol ar lan yr afon

Wedi ei bostio ar Thursday 10th December 2020

Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i breswylwyr am eu barn ar gynigion cyffrous ar gyfer canolfan hamdden a lles i'r 21ain ganrif yng nghanol y ddinas.

Mae'r weledigaeth ar gyfer safle allweddol ar lan yr afon nid yn unig yn cynnig canolfan hamdden newydd - bydd hefyd yn hwyluso'r gwaith o greu campws coleg modern gwerth £90m ar safle'r ganolfan hamdden bresennol.

Ddydd Mercher, bydd y cabinet yn ystyried a ddylid gofyn i aelodau'r cyhoedd, cwsmeriaid a busnesau am eu barn ar y cynnig am ganolfan hamdden a lles fodern, bwrpasol

Mae arolygon wedi dangos bod neuadd y pwll yng Nghanolfan Casnewydd, sy'n 36 oed, y tu hwnt i waith atgyweirio realistig.

Byddai canolfan newydd yn cynnig cyfleusterau llawer gwell gan gynnwys pwll nofio, ystafell ffitrwydd ac ardaloedd iechyd a ffitrwydd modern. Byddai'n cael ei lleoli hefyd yng nghanol y ddinas ac yn hygyrch i bobl o bob rhan o'r ddinas.

Argymhellir bod y safle'n cael ei drosglwyddo i Goleg Gwent ar gyfer campws newydd yng nghanol y ddinas gan ddod â channoedd o fyfyrwyr a staff i ganol y ddinas. Byddai'r amgylchedd dysgu modern hwn yn agos at gampws Prifysgol De Cymru, gan ffurfio Cwr Gwybodaeth Casnewydd.

Mae cais i ariannu'r cyfleusterau hamdden newydd yn rhannol wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru. Byddai gweddill y gost yn cael ei dalu drwy ostyngiad graddol yn y cymhorthdal a delir i Casnewydd Fyw a thua £4m o gronfeydd wrth gefn y cyngor.

I ddarllen yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r cabinet ar 16 Rhagfyr ewch i xxxxx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.