Etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr ar 2 Mai 2024.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn sicrhau bod yr heddlu lleol yn eu hardal yn diwallu anghenion y gymuned.

Byddwch yn pleidleisio ar gyfer etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Ewch i wefan y comisiwn etholiadol i ddysgu mwy. 

Mae Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu (PARO) yn gyfrifol am gynnal yr etholiad yn gyffredinol mewn ardal benodol. Mae eu rolau yn cynnwys:

  • cysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid
  • coladu canlyniad yr etholiad ar ôl dilysu a chyfrif pleidleisiau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi’i benodi’n awdurdod PARO arweiniol ar gyfer ardal heddlu Gwent.

Nod PARO yw cyhoeddi’r canlynol:

  • Datganiad Personau a Enwebwyd cyn gynted â phosibl ar ôl 4pm ar 5 Ebrill 2024
  • Hysbysiad o Asiantau Etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl 4pm ar 5 Ebrill 2024

Dewch o hyd i'ch gorsaf bleidleisio

Hysbysiad etholiad

Hysbysiad etholiad – Comisiynydd Heddlu a Throseddu (pdf)

Amserlen etholiad

Amserlen etholiad 2024
Digwyddiad  Diwrnodau gwaith cyn y bleidlais  Dyddiad 
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd Heb fod yn hwyrach na 18 diwrnod (4pm) Ddim hwyrach na 4pm ddydd Llun 8 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru 12 diwrnod Dydd Mawrth 16 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau pleidlais bost a phleidleisiau post newydd drwy ddirprwy, ac ar gyfer newidiadau i bleidleisiau post neu ddirprwy presennol 11 diwrnod (5pm) 5pm dydd Mercher 17 Ebrill
 Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid dirprwy drwy’r post neu ddirprwy brys) 6 diwrnod (5pm) 5pm dydd Mercher 24 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr 6 diwrnod (5pm) 5pm dydd Mercher 24 Ebrill
Cyhoeddi hysbysiad etholiad Heb fod yn hwyrach na 6 diwrnod Ddim hwyrach na dydd Mercher 24 Ebrill
Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle'r rhai a gollwyd 4 diwrnod Dydd Gwener 26 Ebrill
Diwrnod pleidleisio 0 (7am i 10pm) 7am tan 10pm ddydd Iau 2 Mai
 Y tro diwethaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost yn lle pleidleisiau post a ddifethwyd neu a gollwyd 0 (5pm) 5pm dydd Iau 2 Mai
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dirprwy brys 0 (5pm) 5pm dydd Iau 2 Mai
Y tro diwethaf i newid y gofrestr oherwydd camgymeriad clerigol neu apêl llys 0 (9pm) 9pm dydd Iau 2 Mai
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro 0 (10pm) 10pm dydd Iau 2 Mai
Dyddiad cau ar gyfer anfon hysbysiadau gwrthod dynodwr pleidlais bost O fewn 3 mis i ddyddiad y bleidlais Erbyn ddydd Gwener 2 Awst
*Os yw diwrnod olaf y cyfnod yn disgyn ar benwythnos, gŵyl banc neu unrhyw ddiwrnod a benodwyd ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, ac os felly bydd y diwrnod olaf yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf).

Cysylltwch â ni

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01633 210744