Arolwg O'r Trefniadau Etholiadol ar Gyferdinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymrudeddf

Llywodraeth Leol Ywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

Arolwg O'r Trefniadau Etholiadol ar Gyferdinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd

Bydd rhai o ffiniau wardiau Cyngor Dinas Casnewydd yn newid ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. 

Mae'n golygu y bydd nifer y cynghorwyr yng Nghasnewydd yn cynyddu gan un, gan fynd â’r cyngor o 50 i 51 o aelodau - cyfartaledd o 2,156 o etholwyr fesul aelod. 

Bydd nifer y wardiau hefyd yn cynyddu o 20 i 21, gyda 18 ward yn ethol mwy nag un cynghorydd. 

Bydd un ar ddeg o'r wardiau presennol yn aros yr un fath. Mae'r newidiadau, a ddaw i rym ar gyfer etholiadau nesaf y cyngor ym mis Mai 2022, yn cynnwys:

  • Ward newydd Gorllewin Tŷ-du i gynnwys Pentref Afon gyda dau aelod
  • Dwyrain Tŷ-du gydag un aelod•Gogledd Tŷ-du gydag un aelod
  • Parc Tredegar a ward Marshfield sy'n cwmpasu Coedcernyw, Parc Tredegar, Gwynllŵg, Maerun a Llanfihangel-y-Fedw gyda thri aelod
  • Bydd ward Stow Hill nawr yn cynnwys datblygiad Mon Bank
  • Bydd Cymunedau Llangadwaladr Trefesgob, Langstone, Llanfaches a Phenhow yn cyfuno i ffurfio Ward Llangadwaladr Trefesgob a Langstone gyda dau aelod
  • Bydd Allteuryn, Llanwern, Trefonnen a’r Redwig yn ffurfio ward Llanwern gydag un aelod

Gwybodaeth bellach

Mae'r adroddiad wedi ei gyhoeddi a bydd copiau ohono a map yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ac yn swyddfeydd y Comisiwn abyddant ar gael i'w harchwilio am hyd at chwe mis ar of i unrhyw orchymyn iweithredu'r cynigion gael ei wneud.

Mae copiau ar gael i’w harchwilio yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd drwy apwyntiad yn unig. E-bostiwch [email protected] i drefnu apwyntiad.

Mae trefniadau hefyd yn mynd rhagddynt i osod copiau o'r adroddiad ymhobIlyfrgell gyhoeddus yn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd a bydd nifercyfyngedig ar gael drwy wneud cais amdanynt, gan Ysgrifennydd y Comisiwn ynTy Hastings, Llys Fitzalan, Caerdydd, CF24 OBL.