Hybiau Cymdogaeth

Mae’r timau hybiau cymdogaeth yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth i unigolion a theuluoedd ledled Casnewydd o bedwar hyb cymunedol.

Gallwn roi cyngor a chymorth ynghylch:

  • chwilio am swydd
  • hyfforddiant
  • cymorth teulu neu dai
  • dysgu Saesneg
  • mynediad at TG
  • cyfleoedd gwirfoddoli a mwy... 

Gallwn hefyd roi hyfforddiant am ddim a chymorth mentora un i un i'ch helpu i mewn i waith neu i wella eich rhagolygon gwaith.

Os ydych yn 16-18 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, mae gennym raglenni i’ch helpu chi i ddatblygu.

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i wella sgiliau, gwella iechyd, datblygu personol a buddio’r gymuned ehangach. 

Am fwy o wybodaeth ac i weld sut gallwn ni helpu cysylltwch â ni!

Cysylltiadau

  • Hyb y Dwyrain - Canolfan Gymunedol Ringland, ffôn 08081 963482, e-bost [email protected]
  • Hyb y Gorllewin - Canolfan Gymunedol Maesglas, ffôn 08081 963482, e-bost [email protected]
  • Hyb y Gogledd – Canolfan Gymunedol Betws, ffôn 08081 963482, e-bost [email protected]