Children & Family Services

Sally-Jenkins-2

Neges o groeso oddi wrth Cyfarwyddwyr Strategol: Gwasanaethau Cymdeithasol

P'un a ydych yn dechrau neu'n bwriadu datblygu eich gyrfa gwaith cymdeithasol, gall dewis cyflogwr newydd fod yn amser cyffrous ond anodd.

Yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Dinas Casnewydd teimlwn ei bod yn bwysig eich paratoi gyda gwybodaeth ystyrlon i gefnogi'r penderfyniad hwn ac i'ch croesawu'n llawn i'n timau.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am Gasnewydd fel awdurdod, y gwahanol fathau o waith y mae ein timau yn eu darparu ac i glywed gan ein staff yn uniongyrchol ynghylch eu profiad o weithio o fewn y Tîm Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dilynwch y dolenni i ddysgu mwy:

Arferion gwaith cymdeithasol arloesol

Dyma gyfnod cyffrous yng Nghasnewydd, nid yn unig o ran y ddinas ei hun sydd wrthi'n cael ei hadfywio mewn prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, ond hefyd o ran ein harferion gwaith cymdeithasol arloesol.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynnwys nifer o wahanol dimau sy'n cwmpasu holl ddarpariaethau anghenion teuluoedd, ac eto yr ydym yn meithrin dull 'un gwasanaeth' i ddiwallu'r anghenion hynny orau.

Ein nod yw gwella arferion gwaith cymdeithasol o ansawdd trwy ddefnyddio gweithio aml-asiantaethol, ymyrraeth ataliol a chynnar wrth sicrhau arferion diogelu cadarn ac effeithiol.

Mae'r cydbwysedd rhwng ymyrraeth gynnar a gwaith cymdeithasol gweithredol yn golygu bod darpariaeth ddi-dor o wasanaeth ledled yr awdurdod sy'n sicrhau bod ein harferion yn canolbwyntio ar y plentyn ar bob adeg.

Rydym yn cydnabod bod natur gwaith cymdeithasol plant yn heriol ond trwy weithio gyda ni, byddwch yn gweld cefnogaeth ar draws y grŵp staff cyfan yn darparu amgylchedd gofalgar, sy'n rhoi magwraeth a lle mae pawb yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud sy'n gwella'r cryfderau proffesiynol o fewn ein timau.

Yn ein barn ni, ein gweithlu a'u sgiliau yw ein hadnodd pwysicaf i ein galluogi i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl gyda phlant a theuluoedd yn eu cymunedau, tra hefyd yn cydnabod y rheidrwydd o gynnig y cymorth gorau posibl i'r rhai sydd yn ein gofal.

Rydym yn gyffrous iawn am y trawsnewidiadau a'r cyfleoedd sy'n digwydd yng Nghasnewydd a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac rydym yn gobeithio rhannu'r cyffro hwn gyda chi.

Cyfarwyddwyr Strategol: Gwasanaethau Cymdeithasol