Cartref Gofal Fields

The Fields Home

Mae cartref gofal The Fields yn agos at ganol dinas Casnewydd ac yn agos at lwybrau bysus, yr orsaf drenau a’r M4.

Mae The Fields yn cynnig gofal nyrsio cyffredinol i bobl dros 65 oed mewn amgylchedd cyffyrddus cartrefol gyda thîm o staff cyfeillgar ac agos-atoch-chi sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac wedi’u sefydlu ers tro.   

Mae bwydlen eang ar gael gyda’r prydau i gyd wedi’u paratoi a’u coginio ar y safle.

Mae anghenion pawb yn cael eu bodloni’n unigol ar ôl ymgynghori â pherthnasau a ffrindiau.

Cyfleusterau

  • 34 o welyau nyrsio

Manylion Cyswllt

29 Fields Road, Casnewydd, NP20 4PJ

Ffôn: (01633) 265523

Ffacs: (01633) 213799

E-bost:  [email protected] 

Gwefan:  www.fieldscarehome.com