Cartref Nyrsio Danygraig

Danygraig Nursing Home

Cofrestrwyd Cartref Nyrsio Danygraig fel cartref nyrsio preifat yn 1987 ac fe’i lleolir mewn adeilad deulawr gyda lifft.

Mae’r cartref wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i gynnig llety â gofal nyrsio i fwyafswm o 49 o bobl dros 65 oed.

O fewn y mwyafswm, gall y cartref cofrestredig gynnig llety i hyd at bump o bobl dros 65 oed gydag anghenion gofal personol, pump o bobl dros 45 oed gydag anableddau corfforol ac anghenion gofal nyrsio, a phump o bobl dros 50 oed gydag anghenion gofal nyrsio lliniarol.    

Mae 39 ystafell sengl a 5 ystafell a rennir gan gynnwys 2 ystafell en-suite. 

Cyfleusterau

  • 49 gwely
  • Gofal nyrsio
  • Gofal lliniarol
  • Gofal preswyl

Cysylltu   

Quantock Drive, Chepstow Road, Casnewydd NP19 9DF

Ffôn: (01633) 282316