Cartref Nyrsio Capel Grange

Capel Grange Nursing Home

Mae Capel Grange wedi bod yn cynnig gofal preswyl, nyrsio, dementia ac adferiad ers 2009. 

Wedi’i leoli yn ei diroedd ei hun, mae gan y cartref ardd brydferth a lawnt i drigolion ei fwynhau ac ymlacio ynddo. Mae gan y cartref modern sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol 72 o ystafelloedd sengl en-suite, dwy lolfa wedi’u dodrefnu’n dda a dwy ystafell fwyta lle gall trigolion gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp neu dderbyn ymwelwyr. 

Mae cyfleusterau gwneud te a choffi am ddim ar gael ymhob ardal i alluogi pobl i fwynhau paned gyda’i gilydd.  

Mae’r ardd yn hygyrch ac yn ddiogel. Mae lle trin gwallt ar gael, a thrinwyr yn ymweld.  

Wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), mae Capel Grange yn cynnig llety o’r safon uchaf, gan gynnig gofal wedi’i ganolbwyntio ar yr unigolyn 24-awr, a chymorth gan nyrsys a chynorthwywyr gofal profiadol iawn. 

Mae’r adeilad cyfan i safon uwch na’r hyn sy’n ofynnol gan AGGCC, gydag ystafelloedd gwely mwy, coridorau lletach, lolfeydd mawr a chymhareb uchel o staff i breswylwyr.  

Linc Cymru Housing Association Ltd sy’n berchen ar Capel Grange a Linc Care, adran iechyd a gofal cymdeithasol Linc Cymru sy’n ei redeg.

Mae gan bob preswylydd sy’n byw yn Capel Grange ei gynllun gofal unigryw gyda’u gofynion gofal a’u dewisiadau personol eu hunain.   

Cyfleusterau  

  • Gwelyau nyrsio - 44
  • Gwelyau nyrsio dementia - 28        

Cysylltu   

Cartref Nyrsio Capel Grange, Capel Crescent, Casnewydd NP20 2FG  

E-bost: [email protected]  

Ffôn: (01633) 258910       

Gwefan: www.linc-cymru.co.uk