Tŷ Blaen-y-pant
Cyngor Dinas Casnewydd sy’n rhedeg Tŷ Blaen-y-pant ac mae’n cynnig llety i hyd at 32 o drigolion sy’n chwedeg mlwydd oed neu hŷn, gyda gwasanaethau preswyl arbenigol gan gynnwys gofal dementia.
Mae Blaen-y-pant yn ardal Malpas a’r Betws, o fewn pellter cerdded i siopau lleol, swyddfa’r post a’r fferyllydd.
Ein hamcan yw cynnig bywyd o ansawdd da i’n trigolion, mewn amgylchedd cartrefol a diogel gan annog synnwyr o unigolrwydd a bywyd annibynnol.
Rydym yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol sy’n symbylu ac yn parchu preifatrwydd, urddas, hawliau a dewisiadau’r trigolion.
Cyfleusterau
- 32 ystafell wely
- Gofal preswyl
- Gofal preswyl dementia
- Gofal seibiant
Cysylltiadau
Blaen-y Pant Crescent, Casnewydd NP20 5PX
Ffôn: (01633) 855548
E-bost: [email protected]