Iechyd meddwl

Mae tîm iechyd meddwl pobl hŷn y cyngor yn gweithio gyda'r ymddiriedolaeth iechyd lleol i roi cymorth i bobl hŷn sy'n dioddef salwch meddwl ac i bobl o bob oedran sydd â dementia.

Mae gwasanaethau arbenigol ar gael ar gyfer:

  • pobl hŷn dros 65 oed sy'n dioddef gorbryder, iselder, sgitsoffrenia neu anhwylder deubegwn
  • oedolion o bob oedran sydd â dementia
  • gofalwyr sy'n eu cynorthwyo

Darllenwch sut mae Casnewydd yn datblygu'n ddinas sy'n ystyriol o ddementia

Pwy all gael cymorth?

Mae'n bosibl y bydd pobl sydd ag un neu fwy o'r symptomau canlynol yn gallu cael cymorth:

  • mynd yn fwy a mwy anghofus - colli'r cof yn y tymor byr a'r tymor hir
  • anawsterau wrth ddysgu gwybodaeth newydd
  • crebwyll ac ymddygiad annodweddiadol yn achlysurol
  • sgiliau cymdeithasol a gweithgarwch cymdeithasol yn dirywio
  • galluoedd domestig/gofal personol yn dirywio
  • sgiliau llafar yn dirywio
  • colli cyswllt â lleoliad neu amser
  • anallu cynyddol i adnabod amgylchedd cyfarwydd, perthnasau a ffrindiau
  • mynd yn fwy anniddig
  • ymddygiad aflonydd ac aflonyddu emosiynol
  • pobl sydd wedi dioddef profedigaeth neu ddigwyddiad sy'n achosi newid mewn bywyd
  • diffyg egni a diddordeb mewn gweithgareddau rheolaidd
  • newidiadau mewn patrymau cwsg a/neu awch bwyd
  • anhawster canolbwyntio
  • teimladau o dristwch, gorbryder, diffyg gwerth neu anobaith
  • teimlo'n orbryderus am eu hiechyd corfforol eu hunain

Mae'r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys: 

  • gwasanaethau cymorth cymunedol sy'n helpu pobl i aros yn eu cartref yn ddiogel a pharhau â'u harferion e.e. cynnal diddordeb neu fynd i siopa
  • gwasanaethau gofal cartref gyda staff sydd wedi'u hyfforddi i gynorthwyo pobl â thasgau bob dydd
  • gofal dydd, gofal seibiant a gwasanaethau eistedd gyda phobl
  • gall systemau teleofal helpu rhywun i fyw'n ddiogel yn ei gartref ei hun
  • gofal preswyl a gofal nyrsio pan na fydd byw gartref yn bosibl mwyach

Cartrefi gofal

Darperir gofal preswyl i bobl sydd angen gofal am 24 awr y dydd ac sy'n methu byw'n annibynnol mwyach.

Darperir gofal preswyl dementia i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, sydd angen gofal 24 awr y dydd ac sy'n methu byw'n annibynnol.

Darperir gofal nyrsio cyffredinol i bobl sydd ag anawsterau corfforol ac sydd angen mwy o gymorth na'r hyn sydd ar gael mewn gofal preswyl. Fel arfer, bydd y bobl hyn wedi cael diagnosis o gyflwr corfforol sy'n galw am ofal nyrsio preswyl a lefel uchel o gymorth â gofal.

Darperir gofal nyrsio dementia i bobl â dementia estynedig, pan fydd eu prif anawsterau yn ymwneud ag iechyd meddwl. Gall y bobl hyn fod yn iach yn gorfforol a gallu symud yn weddol, ond bydd ganddynt anawsterau iechyd meddwl sy'n galw am gymorth 24 awr y dydd gan staff cymwys.

Dod o hyd i fanylion cartrefi gofal yng Nghasnewydd

Sut i gael cymorth

Mae'r system atgyfeirio agored yn golygu bod yr unigolyn dan sylw, neu unrhyw un sy'n ymwneud â'r unigolyn hwnnw, yn gallu codi pryderon am iechyd meddwl neu broblem ddementia rhywun.

Byddwn yn derbyn atgyfeiriad cyn i rywun gael diagnosis meddygol, ond bydd y tîm yn ceisio diagnosis cyn gynted â phosibl.

Dangoswyd bod rhoi cyngor a / neu gymorth yn gynnar yn ystod salwch yn arbennig o fuddiol.

Os na allwn helpu'n uniongyrchol, byddwch yn cael eich cyfeirio at ffynonellau help a chymorth eraill.

I atgyfeirio, cysylltwch â'r tîm ar ddyletswydd ar (01633) 656656.

Ar ôl cael atgyfeiriad, bydd aelod o staff yn cyfarfod â chi i drafod y sefyllfa ac asesu anghenion y cleient.

Bydd yr asesiad yn cynnwys pob agwedd ar fywyd yr unigolyn a chytunir ar gynllun i fynd i'r afael ag anghenion yr unigolyn.

Os ydych chi'n ofalwr rheolaidd, gellir delio â'ch anghenion chi trwy asesiad gofalwr.

Y bobl sydd â'r anghenion mwyaf fydd yn cael y flaenoriaeth. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymateb i bobl sy'n dioddef pyliau ansefydlog, sydd wedi colli eu cof i'r graddau bod risg iddynt a phobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol.

Ffioedd

Mae'n bosibl y bydd ffioedd i'w talu am rai gwasanaethau, sydd naill ai'n sefydlog neu'n dibynnu ar incwm a chynilion y cleient.

Bydd ffioedd yn cael eu trafod cyn darparu unrhyw wasanaeth fel nad oes biliau annisgwyl yn cyrraedd.

Cysylltu

Cysylltwch â'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Dinas Casnewydd