Asesiad plentyn

O asesiad, cawn wybod a yw plentyn yn gymwys i dderbyn gwasanaethau. 

Mewn argyfyngau, bydd gweithiwr cymdeithasol yn edrych ar anghenion y plentyn, a yw'r teulu'n gallu bodloni'r anghenion hynny, ac iechyd ac addysg.

Byddan nhw a chi yn penderfynu pa wasanaethau fyddai'n helpu fwyaf.

Ein nod yw cwblhau asesiadau cychwynnol o fewn 7 diwrnod gwaith ac mae'n bosibl y byddwn ni'n cwblhau Asesiad Craidd manylach o fewn 35 diwrnod gwaith.

I sicrhau bod y plant â'r angen mwyaf yn cael gwasanaethau yn gyntaf, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein ffordd o neilltuo gwasanaethau. Dyma'r meysydd a'r anghenion sy'n cael blaenoriaeth:

  • Blaenoriaeth 1 - plentyn neu berson ifanc sydd mewn perygl uniongyrchol o niwed
  • Blaenoriaeth 2 - sefyllfaoedd risg pan fydd y plentyn neu'r person ifanc yn debygol o ddioddef niwed sylweddol
  • Blaenoriaeth 3 - pan fydd iechyd a datblygiad y plentyn yn cael eu hamharu os na chaiff y gwasanaethau eu darparu
  • Blaenoriaeth 4 - pan fydd cyngor, gwybodaeth ac arweiniad yn hybu lles y plentyn neu'r person ifanc

Categorïau angen

  • cam-drin gwirioneddol neu amheuon o gam-drin
  • plant ag anableddau
  • salwch, amhariad neu gamddefnyddio sylweddau gan y rhieni
  • teulu sydd mewn trallod enbyd
  • problemau teuluol sy'n atal rhieni rhag gofalu am eu plentyn yn gywir
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol gan y plentyn
  • incwm islaw lefel cynhaliaeth y wladwriaeth
  • rhieni absennol

Bydd yr amser a gymerir i ymateb i atgyfeiriad yn dibynnu ar lefel y flaenoriaeth a'r angen, er enghraifft:

  • Os bydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, bydd ymateb ar yr un diwrnod
  • Os oes ar blentyn neu deulu angen cyngor ac arweiniad, gall yr amser ymateb gymryd hyd at saith diwrnod
  • Os penderfynir bod angen gwasanaethau ychwanegol yn dilyn yr asesiad, bydd y rhain yn cael eu trefnu, unwaith eto yn ôl ein meini prawf cymhwysedd. Gallai'r gwasanaethau hyn gael eu darparu gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd neu gan wasanaeth arall e.e. Cychwyn Cadarn.

Cysylltwch â'r tîm ar ddyletswydd i ofyn am asesiad