cefnogaeth a manteision

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru Casnewydd, byddwch yn derbyn lwfansau ariannol hael. Rydyn ni’n cyfrifo’r rhain yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba hyd.

Er enghraifft, ar hyn o bryd yng Nghasnewydd mae gennyn ni ofalwyr maeth sy’n derbyn £660 yr wythnos am faethu dau o blant 4 ac 8 oed.

gwobrau eraill

Oeddech chi’n gwybod bod nifer o fuddion eraill hefyd?

Fel gofalwr maeth yng Nghasnewydd, ar ben y lwfansau y soniwyd amdanynt uchod, fe gewch:

  • Mynedfa am ddim i’r gampfa a’r pwll nofio ar gyfer y teulu maethu cyfan

amrywiaeth o gymorth

  • Men Who Care – grŵp sy’n cynnig cymorth gan gyfoedion ac sy’n rhan o’r pecyn cymorth ychwanegol
  • Digwyddiadau cysylltu arbenigol ar gyfer Men Who Care
  • Cymorth mentora gan ofalwyr maeth lleol profiadol
  • Rhwydwaith cymorth hynod gysylltiedig i blant sy’n derbyn gofal sy’n profi anawsterau mewn addysg
  • Cyfarfodydd Cynllunio Cychwynnol (CCC) gyda gofalwyr maeth i ddeall anghenion unigryw plant yn well
  • ‘Digwyddiadau cysylltu’ ar gyfer gofalwyr maeth sy’n gofalu am blant cyn ysgol, plant ysgol gynradd, plant ysgol uwchradd a’r rhai 16+ oed (gan gynnwys lluniaeth am ddim a mynediad am ddim i ardal chwarae meddal i blant)

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ond dim dyna’r cyfan. Ochr yn ochr â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cytuno i ddarparu pecyn penodol o fanteision, hyfforddiant a chefnogaeth i bob un o’n gofalwyr maeth. Felly, fel pob gofalwr maeth Maethu Cymru arall, byddwch yn elwa o’r canlynol:

Adult and young girl baking together in kitchen

un tîm

Fel yr Awdurdod Lleol, rydyn ni i gyd yn rhan o un tîm: gofalwyr maeth, rhieni, plant sydd yn ein gofal a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ein harwain a’n cefnogi. Ein nod cyffredin yw cyfoethogi bywydau’r plant sydd yn ein gofal, ac rydych chi’n rhan greiddiol o’r genhadaeth honno.

Fel rhan o’n tîm, byddwch chi’n ymuno â grŵp o bobl ymroddedig. Pobl sy’n gyfrifol am ofalu am bob plentyn a’u helpu i aros yn eu hardal leol. Cysylltiad ac ymroddiad yw beth sy’n gwneud y tîm hwn yn unigryw.

dysgu a datblygu

Mae bod yn ofalwr maeth yn daith. Mae ein pecynnau cymorth yn bodoli i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau fel eich bod chi’n gallu bod yn ofalwr maeth hyderus a galluog iawn. O ganlyniad, bydd y plant yn eich gofal yn ffynnu a bydd modd newid bywydau er gwell.

Mae pob gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Casnewydd yn elwa o’r un hyfforddiant a chefnogaeth, ac mae pob un yn cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Mae’r cynllun hwn yn ystyried yr holl wybodaeth a phrofiad bywyd sydd gennych eisoes, yn ogystal â chynllunio ar gyfer eich twf. Rydyn ni’n gweld y cynnydd rydych chi’n ei wneud, bob dydd, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Two young boys in playground playing together on seesaw

cefnogaeth

Ar ôl i chi gael eich paru â phlentyn neu oedolyn ifanc, bydd ein tîm clòs wrth law i’ch cefnogi a’ch annog chi’ch dau. Fyddwch chi byth ar eich pen eich hun oherwydd byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â gweithiwr cymdeithasol profiadol a fydd yn eich cefnogi a’ch cynghori.

Bydd gennych chi hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi lleol, lle byddwch chi’n cwrdd â gofalwyr maeth eraill a gweithwyr gofal proffesiynol. Mae hwn yn gyfle gwych i rannu profiadau, siarad a gwrando ar ein gilydd

Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth proffesiynol pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, hyd yn oed y tu allan i oriau swyddfa arferol. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm bob amser, sy’n golygu y byddwn ni wrth law pryd bynnag y bydd ein hangen arnoch chi.

O grwpiau cefnogi arbenigol i ofalwyr maeth arbenigol, i gyfarfodydd sy’n benodol i ddynion, byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd o ofalwyr maeth fel chi, sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth.

Group of 5 children and young teenagers dancing in street

y gymuned faethu

Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o rwydweithiau cymorth cymdeithasol yng Nghasnewydd. Gallwch chi gyfarfod gofalwyr maeth eraill a rhannu eich profiadau unigryw a dechrau cyfeillgarwch newydd a phwerus gyda phobl yn y gymuned leol.

Ar ben hyn, mae cyfoeth o gyngor a gwybodaeth ar-lein y gallwch chi gael gafael arnyn nhw ar unrhyw adeg fel gofalwr maeth Cymru.

Mae Maethu Cymru yn talu i chi fod yn aelod o’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) a’r Rhwydwaith Maethu (TFN). Mae’r rhain yn sefydliadau maethu arbenigol sy’n cynnig cyngor, arweiniad, cefnogaeth a llawer o fanteision eraill.

Two adults and two children having fun together outdoors

llunio’r dyfodol

Mae angen gofal maeth ar bob plentyn yn ein gofal, a hynny am eu rhesymau unigol eu hunain. Rydyn ni’n croesawu eu straeon unigol, ond dydy’r gorffennol ddim yn ein rheoli ni. Yn hytrach, rydyn ni’n credu mai’r peth pwysicaf yw edrych ymlaen – at ddyfodol gwell a phrofiadau newydd. Eich rôl chi fel rhiant maeth yw ein helpu ni i lunio beth sy’n dod nesaf, a helpu plant i gyrraedd eu potensial yn llawn.

Rydyn ni’n eich gwerthfawrogi chi, ac oherwydd hyn, rydyn ni’n dymuno sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed bob amser – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n gofyn am eich barn a’ch mewnbwn wrth wneud newidiadau, ac rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad drwy gylchlythyrau a diweddariadau. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n gwneud hyn gyda’n gilydd.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol