ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yng nghasnewydd?

Ein prif flaenoriaeth yw darparu’r gefnogaeth a’r gofal gorau i blant lleol. Felly ein hateb i’r cwestiwn “pwy all faethu plentyn yng Nghasnewydd” yw: unrhyw un sy’n rhannu’r ymrwymiad hwnnw â ni.

Gyda gofalwyr maeth newydd, rydyn ni’n edrych ar y tosturi, y bersonoliaeth a’r sgiliau maen nhw’n eu cynnig. Mae pawb yn wahanol ac mae pob gofalwr maeth yn cynnig rhywbeth unigryw. Rydyn ni’n dathlu’r amrywiaeth yma.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i fod yn rhiant maeth, byddwn yn edrych ar yr holl nodweddion unigryw sy’n eich gwneud chi yn chi. Rydyn ni’n eich gwerthfawrogi fel unigolyn, ac yn eich paru â phlant a fydd yn elwa fwyaf o bopeth y gallwch ei gynnig.

Beth bynnag fo eich statws priodasol, eich hunaniaeth o ran rhywedd, eich cyfeiriadedd rhywiol neu’ch ethnigrwydd, mae gennych chi rywbeth yn gyffredin â phob un o’n gofalwyr maeth – rydych chi’n gwrando. Rydych chi’n poeni. Chi sydd yno pryd bynnag y bydd eich angen chi.

Ydych chi’n dal ddim yn siŵr a allwch chi faethu yng Nghasnewydd? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Mae gofal maeth yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Does dim un llun yn cyfleu gofal maeth, ond yn hytrach, nifer o wahanol luniau. Oherwydd pa mor amrywiol yw’r rôl, mae arnon ni angen cymuned amrywiol o ofalwyr maeth, a bydd gan bob gofalwr maeth ei ddiwylliant, ei gryfderau a’i brofiad ei hun. O faethu tymor byr i rywbeth mwy parhaol, mae llawer o ffyrdd o faethu – ond yr hyn sydd bob amser yn wir yw, mae’n gwneud gwahaniaeth i blant lleol. Rydych chi’n gweld y da rydych chi’n ei wneud bob dydd.

Ein rôl ni fel eich rhwydwaith cefnogi gofal maeth yw cynnig hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth arbennig bob amser, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch – dim gwasanaeth 9 tan 5 a gewch chi gennyn ni. Rydyn ni’n lleol, fel chi, ac rydyn ni yno pryd bynnag y bydd arnoch ein hangen ni.

Rydyn ni’n dod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth, ynghyd â’ch cymuned o ffrindiau, teulu ac anwyliaid. Er mwyn creu dyfodol gwell a mwy cyffrous. Cyn i chi ddechrau ar eich cais i fod yn ofalwr maeth, gofynnwch i chi’ch hun: ydy hyn yn rhywbeth rwy’n dymuno bod yn rhan ohono? Os felly, rydych chi’n barod.

 

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Does gan rai gofalwyr maeth ddim swydd y tu allan i faethu, ond mae gan eraill. Yr ateb cryno yw, os gallwch chi ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng gofalu am blentyn a gweithio, dydy swydd llawn amser ddim yn rhwystr rhag dod yn ofalwr maeth.

Yr hyn sy’n wych am fod yn ofalwr maeth yw eich bod yn newid bywyd rhywun. Mae’n ymrwymiad mawr, ac mae’n cymryd amser – ond dydych chi ddim yn gwneud hyn ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n gweithio hefyd, efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch gan bartner, gan deulu neu gan ffrindiau agos. Rydyn ni’n gwneud iddo weithio, gyda’n gilydd.

 

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Dim p’un ai ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu sy’n bwysig, ond a all eich cartref fod yn rhywle diogel a saff i blentyn. Os oes gennych ystafell sbâr, mae gennych y potensial i agor eich cartref i blentyn maeth – morgais neu beidio.

 

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Gallwch, yn bendant. Mae gennyn ni lawer o rieni maeth gyda phlant eu hunain, ac mae’r cysylltiadau rhwng brodyr a chwiorydd sy’n ffurfio yn sgil maethu yn gallu bod yn fuddiol iawn – maen nhw’n helpu i ddysgu pwysigrwydd trugaredd a charedigrwydd, sut mae gofalu am bobl a deall straeon gwahanol pawb. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n para a byddan nhw’n dal i fod o fudd i bobl ymhell i’r dyfodol.

Mae maethu’n golygu dod at eich gilydd a derbyn rhywun newydd i’ch teulu – rydych chi i gyd yn dod at eich gilydd i ofalu am rywun a gwneud gwahaniaeth.

 

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer dod yn ofalwr maeth. Felly, p’un ai ydych chi yng nghanol eich ugeiniau neu’n 70 oed neu’n hŷn, gallech chi fod yn rhiant maeth gwych. Rydyn ni’n ystyried pethau fel symudedd ac iechyd cyffredinol yn ystod y broses ymgeisio, felly cyn belled â’ch bod yn rhesymol ffit ac iach, dydy’ch oed ddim yn rhwystr.

 

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Os ydych chi’n teimlo mai dod yn rhiant maeth yw’r rôl i chi, peidiwch â phoeni am fod yn rhy ifanc. Bydd gennych yr un brwdfrydedd, ymroddiad a gofal yn y rôl â rhywun hŷn. Mae’n wir bod gan brofiad bywyd ei fanteision, ond peidiwch â phoeni. Byddwn yn cynnig yr holl gefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad sydd eu hangen arnoch, o gam cyntaf eich taith faethu.

 

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil??

Dydyn ni ddim yn ystyried bod eich statws priodasol yn ffactor pwysig pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn ofalwr maeth. P’un ai ydych chi’n briod, yn sengl, mewn partneriaeth sifil neu mewn perthynas, y peth pwysig i’w ystyried yw a allwch chi gynnig sefydlogrwydd a gofal cyson.

Mae eich partner yn rhan bwysig o’ch bywyd, ac rydyn ni’n cydnabod hynny drwy ei gynnwys yn eich cais. Mae tîm Maethu Cymru Casnewydd yn gweithio gyda’r ddau ohonoch chi ynghyd â’ch rhwydwaith o ffrindiau a theulu, er mwyn i ni allu bod yn siŵr bod maethu’n addas i bawb.

 

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch faethu beth bynnag yw eich hunaniaeth o ran rhywedd. Y rhinweddau sy’n eich gwneud chi’n rhiant maeth rhagorol sy’n bwysig i ni – eich caredigrwydd, eich tosturi a’ch sgiliau unigryw – ac er bod eich hunaniaeth o ran rhywedd yn eich gwneud chi yn chi, dydy hynny ddim yn effeithio ar eich gallu i faethu.

 

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch faethu, beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol. Rydyn ni’n cynnig yr un ymroddiad a chefnogaeth yn union i bob darpar riant maeth, a byddwn yn eich tywys drwy’r broses er mwyn i chi wybod yn union beth i’w ddisgwyl. Mae’n ymrwymiad, ond mae’n rhoi boddhad hefyd – a’ch rôl chi yw bod yn chi eich hun.

 

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Bydd pob anifail anwes yn cael ei ystyried fel rhan o’ch cais os byddwch yn penderfynu dod yn ofalwr maeth. Mae hyn yn golygu y byddwn yn asesu eu natur a sut byddan nhw’n dod ymlaen ag unrhyw aelodau newydd o’ch teulu. Mae’r cariad a’r gefnogaeth y gall anifail anwes eu cynnig yn wahanol i’r hyn y gallwch chi ei ddarparu fel rhiant maeth, ond gall fod yn werthfawr hefyd.

 

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae’n bosibl i chi ddod yn ofalwr maeth yng Nghasnewydd os ydych chi’n ysmygu. Ond, mae ysmygu’n rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried wrth eich paru â phlentyn yn ein gofal. Os ydych chi’n ysmygu, bydd yn golygu bod rhai plant yn fwy addas i ymuno â’ch teulu nag eraill.

Os byddwch yn penderfynu eich bod am roi’r gorau i ysmygu, byddwn yno i gynnig cefnogaeth i chi.

 

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Rydyn ni’n cydnabod bod pethau’n gallu bod i fyny a lawr i bawb o ran gwaith. Oherwydd hyn, gallwch wneud cais i fod yn rhiant maeth beth bynnag fo’ch statws cyflogaeth.

Os ydych chi rhwng swyddi, rydyn ni’n dal i’ch annog i wneud cais – ond dim ond os ydych chi’n teimlo mai dyma’r amser iawn i chi. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi drwy gydol y broses, i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth fydd y rôl yn ei olygu.

 

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob cartref maeth yn edrych yn unigryw – p’un ai yw eich cartref yn fflat neu’n dŷ, yn dŷ teras neu’n dŷ ar ei ben ei hun, mae ganddo’r potensial i fod yn lle diogel i rywun sydd ei angen.

Mae pob plentyn yn ein gofal angen ei ystafell wely ei hun, a dyna’r prif beth – felly os oes gennych ystafell sbâr sy’n segur ar hyn o bryd, beth am ei throi’n rhywbeth sy’n newid bywyd.

rhagor o wybodaeth am faethu

mathau o faethu

Oeddech chi'n gwybod bod yna lawer o wahanol fathau o faethu? O’r tymor byr a’r tymor hir i’r mathau arbenigol, mae mwy o wybodaeth am faethu ar gael yma.

mathau o faethu

cwestiynau cyffredin

Ydych chi’n meddwl tybed beth yw rôl gofalwr maeth, pwy sydd angen cael ei faethu neu sut brofiad yw maethu o ddydd i ddydd?

mae'r atebion ar gael
Adult with teenage boy in kitchen making food together

cefnogaeth a manteision

Dysgwch am y gwahanol fathau o fanteision sydd ar gael pan fyddwch yn dod yn ofalwr maeth yn ein cymuned.

dysgwych mwy
Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch