Plant anabl

Os oes gan eich plentyn anabledd ac mae angen help arnoch chi, cysylltwch â thîm dyletswydd Cyngor Dinas Casnewydd a fydd yn trosglwyddo'r atgyfeiriad i'r tîm plant anabl. 

Mae'r tîm plant anabl yn cynnig gwasanaethau i blant anabl a'u teulu hyd nes bod y person ifanc yn 18 oed.  

Gwneir asesiad er mwyn deall anghenion y plentyn, i weld pa wasanaethau fyddai'n fwyaf addas.

Defnyddir meini prawf cymhwysedd fel bod y rhai â'r angen mwyaf yn cael cymorth. 

Cofrestru gyda'r Mynegai a'r gwasanaeth gwybodaeth

Mae newyddion a digwyddiadau'n cael eu hanfon yn electronig - cofrestrwch i gael newyddion a hysbysiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd

Mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael i ofalwyr di-dâl a rhieni plant ag anghenion ychwanegol a/neu anableddau. Mae hyn yn cynnwys cynnig Asesiad Gofalwr. Darllenwch fwy am ein cefnogaeth i ofalwyr.

Buddies Together

Allwch chi roi ychydig oriau o’ch amser bob wythnos i helpu plant a phobl ifanc anabl?

Rydym yn chwilio am bobl 17+ oed sy’n gallu rhoi ychydig oriau’r wythnos i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc anabl.

Mae ‘Buddies Together’ yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl.

I gael gwybod mwy ac i gofrestru e-bostiwch [email protected]

Cymorth cysylltiedig

Cyngor ar Bopeth - Prosiect Budd-dal Anabledd i Blant

Cysylltu 

Y Tîm Plant Anabl, Canolfan Blant Serennu, Cwrt Camlas, High Cross, Casnewydd, NP10 9LY

Anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656