Dechrau'n Deg

Flying Start logo

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg sydd ar gael mewn rhai ardaloedd sy'n rhoi cymorth i deuluoedd â phlant 0-4 oed.  

Mae'n hyrwyddo sgiliau iaith, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol a nodi anghenion uchel yn gynnar trwy ddarparu cymorth iechyd, grwpiau rhianta, cymorth iaith cynnar a gofal plant rhan amser am ddim.

Yn Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun graddol i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.  Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen hon ym mis Medi 2022 a bydd cam 2 yn dechrau o fis Ebrill 2023. 

Cysylltir yn uniongyrchol â theuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd sydd newydd ddod yn gymwys.

I weld a yw eich cyfeiriad wedi'i gynnwys, e-bostiwch [email protected] gyda'ch enw, eich cyfeiriad a'ch cod post ynghyd â disgrifiad byr o'ch ymholiad. 

Os ydych yn byw yn y dalgylch penodol, rydych yn gymwys i fanteisio ar y gwasanaethau hyn. 

Gofal Plant  

Mae dysgu drwy chwarae yn bwysig i ddatblygiad plant ifanc.   Mae chwarae’n gwella lles gwybyddol, corfforol, cymdeithasol, ac emosiynol plant. 

Ethos ein gofal plant yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i archwilio, cael hwyl a datblygu eu meddyliau creadigol a dychmygus trwy chwarae rhydd, mewn amgylchedd diogel a gofalgar, gyda staff gofal plant cymwys a phrofiadol iawn. 

Gwyddom y gall profiad plant yn eu blynyddoedd cynnar gael effaith ar weddill eu bywydau. 

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni i sicrhau bod y profiadau hyn yn gadarnhaol ac yn hapus i rieni a phlant.  

Rhianta

Ebostiwch [email protected] i holi am gyrsiau rhianta yn eich ardal neu siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu unrhyw aelod o staff Dechrau'n Deg.  

Cyflwynir rhaglenni rhianta gan dîm o Swyddogion Cyflenwi Ymyrraeth Deuluol profiadol (SCYD) sy'n gweithio gydag ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg.  

Cymorth Iaith Cynnar

Cefnogir iaith a chyfathrebu cynnar gan dîm o swyddogion cyflenwi iaith a chwarae a gweithwyr cymorth, gyda chefnogaeth therapydd iaith a lleferydd.

Mae sesiynau grŵp yn cynnwys: 

Siaradwyr Bach 

Grŵp ar gyfer rhieni a phlant 7-18 mis oed i ddatblygu strategaethau rhyngweithio i oedolion sy'n cefnogi datblygu cyfathrebu. 

Mae grwpiau cymorth cynnar eraill ar gael trwy atgyfeirio i’r Tîm Cymorth Cynnar. Gallwch siarad â'ch Ymwelydd Iechyd neu aelod o dîm Dechrau'n Deg am ragor o wybodaeth. 

Iechyd 

Mae byw mewn Ardal Dechrau'n Deg yn caniatáu i'ch plentyn a'ch teulu fanteisio ar grwpiau a rhaglenni iechyd gyda chymorth ac arweiniad drwy feichiogrwydd nes bod eich plentyn yn bedair oed. 

Ymwelwyr iechyd  

Caiff teuluoedd sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg gyda phlant o dan bedair oed ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg i helpu plant, teuluoedd a chymunedau i gyrraedd eu potensial a chyflawni'r iechyd a'r lles gorau. 

Bydd yr ymwelydd iechyd yn cefnogi'r teulu yr holl amser y mae'r plentyn yn y rhaglen.

Mae gan ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg lwyth gwaith llai sy'n eu galluogi i wneud ymweliadau rheolaidd a hirach â phlant a'u teuluoedd i nodi a diwallu eu hanghenion.

Bydwragedd

Mae bydwragedd Dechrau'n Deg Casnewydd yn annog mabwysiadu bywyd cynenedigol iach a chyflwyno negeseuon iechyd a allai wella iechyd a lles y teulu cyfan. 

Mae atgyfeiriadau bydwragedd wedi'u targedu at y teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â phroblemau iechyd, personol neu gymdeithasol.

Mae'r bydwragedd yn arwain dosbarthiadau rhianta cynenedigol a grwpiau cymorth bwydo ar y fron yn ogystal â chefnogi teuluoedd gartref. 

Nyrsys Meithrin

Mae nyrsys meithrin Dechrau'n Deg yn cefnogi teuluoedd gartref ac yn y lleoliadau cymunedol, gan ddarparu cyngor iechyd a gwybodaeth am dylino babanod, bwydo ar y fron, diddyfnu, bwyta'n iach, iechyd deintyddol, grwpiau pwyso a chwarae a chynllun diogelwch gartref Casnewydd.  

Ymarferydd iechyd meddwl 

Mae'r ymarferydd iechyd meddwl yn cefnogi pobl sy'n dioddef salwch meddwl. 

Mae gan Gasnewydd grŵp cymorth ar gyfer merched sy'n dioddef iselder ôl-enedigol a gwasanaeth cwnsela sy’n cefnogi teuluoedd.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd ar 01633 210842 neu anfonwch e-bost i [email protected].

 

Hysbyseb preifatrwydd - Dechrau'n deg (pdf)