Mae cynlluniau chwarae yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror a mis Hydref, dros y Pasg ac am bedair wythnos yn ystod gwyliau'r haf.
Nod cynlluniau chwarae yw cynnig cyfleoedd chwarae creadigol a llawn hwyl, wedi'u rhedeg gan weithwyr chwarae, ar gyfer plant 5 i 12 oed mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.
Os oes gan eich plentyn unrhyw ofynion penodol, trafodwch hyn gyda'r tîm datblygu chwarae isod.
Mae cynlluniau chwarae yn cael eu harwain gan y plentyn ac maent yn rhoi'r cyfle i blant reoli eu chwarae a herio'u hunain i gymryd risgiau emosiynol a chorfforol mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.
Dylai rhieni a gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru ar ymweliad cyntaf y plentyn â'r cylch chwarae a bydd angen cofrestru yn flynyddol.
Mae sawl math o gynllun chwarae:
-
AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) - wedi cofrestru gydag AGC i ddarparu chwarae i blant rhwng 5 a 12 oed rhwng 10am a 3pm. Mae uchafswm o leoedd ar gael sy'n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
-
Sesiynol - sesiwn dwy awr ar y mwyaf a gyflwynir mewn cymunedau lleol ar gyfer plant 5 i 12 oed
-
Allgymorth - sesiwn ddwy awr ar y mwyaf a gyflwynir yn yr awyr agored mewn mannau agored mewn cymunedau lleol ym mhob math o dywydd
-
Cynllun chwarae arbenigol - yn rhedeg yn ystod gwyliau'r haf i blant 5 i 18 oed sydd ag anghenion gofal cymhleth wrth gael eu hatgyfeirio gan athro, meddyg teulu, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol ac ati.Hwyl yn ystod gwyliau'r ysgol
Clybiau Chwarae
Mae clybiau chwarae yn cael eu harwain gan blant ac yn rhoi cyfle i blant reoli eu chwarae a herio eu hunain i gymryd risgiau emosiynol a chorfforol mewn amgylchedd diogel. Cynhelir sesiynau llawn hwyl ar draws Casnewydd ar gyfer plant 5-11 oed.
Darganfod mwy o wybodaeth
Dydd Mawrth
4pm-5pm: Clwb Chwarae Alway
Dydd Mercher
4pm-5pm Clwb Chwarae Pill
4pm-5pm Clwb Chwarae Underwood
Dydd Iau
4pm-5pm Clwb Chwarae Betws
4pm-5pm Clwb Chwarae Maesglas
Clybiau Ieuenctid
Mae clybiau ieuenctid yn cael eu harwain gan blant ac yn rhoi cyfle i blant reoli eu chwarae a herio eu hunain i gymryd risgiau emosiynol a chorfforol mewn amgylchedd diogel. Cynhelir sesiynau llawn hwyl ar draws Casnewydd ar gyfer plant 10-16 oed.
Darganfod mwy o wybodaeth
Mynediad agored
Mae cynlluniau chwarae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhai mynediad agored a gall plant ddewis pa weithgareddau chwarae maen nhw am eu gwneud, a gyda phwy maen nhw'n chwarae.
Gall y plant gyrraedd ac ymadael â'r cynllun chwarae ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau cyhoeddedig, ond gofynnir i rieni ddweud wrth eu plant i beidio â gadael y safle heb ddweud wrth weithiwr chwarae.
Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ofal, rheolaeth a goruchwyliaeth plant sy'n teithio i'r cynllun chwarae nac ar ôl iddynt ymadael â'r safle.
Os bydd unrhyw blentyn eisiau gadael y cynllun chwarae yn ystod y dydd, rhaid i'r plentyn lofnodi i mewn ac allan a rhoi gwybod i weithiwr chwarae ei fod yn gadael.
Datblygu chwarae Teuluoedd yn Gyntaf
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn i fynychu clwb chwarae, anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm datblygu chwarae.