PHP Genie

PHP Genie: arwain newid byd-eang

Bu siopa ar-lein yn rhan hanfodol o'r rhyngrwyd ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, mae gwerthiannau ar-lein wedi parhau i dyfu hyd yn oed yn ystod y dirwasgiad presennol yn sector manwerthu’r stryd fawr.

Ond mae e-fasnach yn aeddfedu ac mae dulliau cyfun newydd yn datblygu. Mae PHP Genie o Gasnewydd yn helpu eu cleientiaid o gwmpas y byd i arwain y newid hwn.

Y cam nesaf ymlaen

Rhoddodd gwerthu traddodiadol ar-lein gyfle i siopwyr ddod o hyd i gynhyrchion yr hoffent ar y stryd fawr, yna eu prynu'n rhatach ar-lein - neu o leiaf gymharu prisiau i sicrhau eu bod yn cael y fargen orau.

Nawr mae'r safleoedd gwerthiant ar-lein gorau yn rhoi llawer mwy o wybodaeth i siopwyr nag y gallant eu cael ar y stryd fawr, ond nid oes ganddynt yr apêl o fynd â'u nwyddau gartref gyda nhw ar yr un diwrnod.

Mae'r cam nesaf mewn gwerthu ar-lein yn cyfuno cryfderau siopa ar-lein a stryd fawr.

'Mae e-fasnach yn datblygu mewn ffyrdd gwirioneddol ddiddorol. Mae'n symud i ffwrdd o'r rhaniad gwirioneddol hwnnw rhwng siopa all-lein a siopa ar-lein ... Gwerthu omni-sianel yw'r cam nesaf, lle mae gwerthiannau all-lein a gwerthiannau ar-lein yn dechrau cyfuno.'

'Enghraifft yw'r gwasanaethau clicio a chasglu yr ydym yn dechrau eu gweld nawr. Gallwch edrych drwy'r catalog, gweld beth sydd mewn stoc, ei brynu ar-lein ac yna mynd i’w gasglu. Y goblygiadau yw swyddogaeth wirioneddol gref i siopau brics a morter. Yr hyn yr ydych yn ei weld yw fod busnesau ar-lein yn agor siopau brics a morter i ategu eu busnes ar-lein.'

Mwy o werthiant drwy well gwasanaeth

Mae'r cyfuniad o brofiad siopa brics a morter gyda phrosesau gwybodaeth a gwerthiannau soffistigedig y busnesau ar-lein gorau yn gyfle gwirioneddol i wella'r profiad manwerthu cyffredinol.

Yn union fel y mae llawer o sioeau teledu byw yn cael eu hategu gan gynnwys ar-lein y gellir cael mynediad ato drwy ffonau smart a thabledi, gellir ategu'r profiad siopa ar y stryd fawr â chynnwys ar-lein - er enghraifft, adolygiadau cwsmeriaid neu wahanol ddewisiadau lliw, argaeledd stoc, cynigion arbennig, ayb.

'Yr hyn yr ydym yn dechrau ei weld nawr yw gwybodaeth stoc fyw yn cael ei dangos ar sgriniau yn y siopau ... gyda chysylltedd gwell, bydd cwsmeriaid yn gallu cymharu prisiau, gwirio lefelau stoc, neu fe allwch weld pâr o esgidiau glas yn y siop, a gweld ar eich ffôn bod gan y siop rai coch hefyd...'

Adolygiadau hanfodol

Pan ddechreuodd e-fasnach, ystyriwyd nad oedd unrhyw ddewis arall mewn gwirionedd i weld cynnyrch ar y stryd fawr cyn penderfynu a oeddech ei eisiau.

Ond yn y blynyddoedd diwethaf, mae hyn wedi newid - nawr os ydych chi'n gweld rhywbeth mewn siop, mae'n bosib y byddwch chi'n aros nes i chi wirio'r adolygiadau cwsmeriaid ar-lein cyn i chi ei brynu. Felly mae gwneud hyn ar gael yn y siop yn gam arall wrth wneud y gwerthiant hwnnw.

'Mae adolygiadau'n hynod bwysig: mae’r rhain yn rhan allweddol o adeiladu gwefan e-fasnach dda ... adolygiadau gwrthrychol gan ystod eang o bobl.'

Cyfle i’r dyfodol

Mae PHP Genie yn enghraifft wych o fusnes yng Nghasnewydd sy'n arwain y ffordd mewn marchnad fyd-eang.

Trwy weithio gyda chleientiaid dros y rhyngrwyd, gallant gael mynediad i farchnadoedd yn unrhyw le yn y byd, o'r marchnadoedd traddodiadol yn America ac Ewrop, i unrhyw un o'r marchnadoedd sy'n datblygu, wrth iddynt ddod i'r amlwg.

'Mae cael cysylltiad rhyngrwyd da yn gallu agor cyfleoedd i bob math o gwmnïau, yn enwedig cwmnïau gwasanaeth. Gyda chysylltiad rhyngrwyd da, gallwch weithio gyda chwmnïau yn unrhyw le yn y byd.'