Tystysgrif pont bwyso

Pont bwyso - tystysgrif cymhwysedd

Fel arfer mae pont bwyso gyhoeddus yn eiddo i fusnes preifat sydd wedi penderfynu ei gwneud ar gael ar gyfer pwyso unrhyw eitem - cerbydau fel arfer - am ffi.

Rhaid rhoi prawf ar staff pont bwyso er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'r bont yn gymwys ac yn ôl y gofynion cyfreithiol, sef: 

  • pwyso pan ofynnir iddynt (oni bai bod rheswm da i beidio gwneud)
  • pwyso'n deg.
  • darparu datganiad ysgrifenedig o'r pwysau i'r person sydd wedi gofyn am y pwyso

Yna rhaid i weithredwr y bont bwyso gadw cofnod o bob pwyso am 2 flynedd, a rhaid iddo gynnwys:  

  • dyddiad ac amser y pwyso
  • enw a chyfeiriad y person a wnaeth y cais
  • manylion i adnabod y cerbyd, e.e. rhif cofrestru
  • y math o lwyth ar y cerbyd.

Lleoliad pont bwyso gyhoeddus

Mae’r unig bont bwyso gyhoeddus yng Nghasnewydd yn Island Steel UK Ltd, Alexandra Docks, Casnewydd NP20 2UW

Ymwelwch â gwefan Island Steel UK neu ffoniwch (01633) 211133.

Gwnewch gais

I gofrestru pont bwyso cyhoeddus e-bostiwch [email protected] i wneud cais am dystysgrif cymhwysedd.

Bydd staff pontydd pwyso'n cael eu profi a chodir tâl.

Rhaid i'r cais gynnwys eich enw, y cyfeiriad a'r math o bont bwyso, a faint o staff fydd yn gweithredu'r bont bwyso.