Loterïau

Mae Deddf Hapchwarae 2005 yn enwi pa loterïau cyfreithiol y mae angen iddynt gael trwydded gan y Comisiwn Hapchwarae neu gofrestru gyda'r awdurdod lleol.

Loterïau cymdeithasau mawr

Mae'r rhain yn cael eu hyrwyddo er budd cymdeithas anfasnachol sydd â nodau ac amcanion penodol ac sy'n ateb y diffiniad o gymdeithas anfasnachol yn y Ddeddf.

Rhaid i'r math hwn o loteri gael ei drwyddedu gan y Comisiwn Hapchwarae os gallai'r elw fod yn fwy nag £20,000 mewn loteri unigol, neu os bydd yr elw cyfan mewn blwyddyn galendr yn fwy na £250,000.

Loterïau awdurdodau lleol

Mae angen i loteri sy'n cael ei hyrwyddo gan awdurdod lleol, lle gallai'r elw gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, gael trwydded gan y Comisiwn Hapchwarae.

Loterïau cymdeithasau bach

Dyma loteri lle na fydd yr elw yn fwy nag £20,000 mewn loteri unigol a lle nad yw'r elw mewn blwyddyn galendr yn fwy na £250,000.

Er nad oes angen trwydded, rhaid i'r loteri gael ei chofrestru gyda'r awdurdod lleol lle mae pencadlys y gymdeithas wedi'i leoli.

Apply to register a small lottery

Fel arfer, mae'r broses ymgeisio'n cymryd 14 diwrnod a rhaid i chi aros hyd nes bod penderfyniad wedi'i wneud ar y cais cyn i chi fwrw ymlaen.

Mae dyletswydd ar y gymdeithas sy'n hyrwyddo loteri cymdeithas fechan i gyfrif yn gywir am ganlyniad unrhyw loteri y mae'n ei chynnal trwy anfon Ffurflen Enillion statudol i'r awdurdod lleol o fewn 3 mis o gynnal y loteri.

Trowch at arweiniad Gorfodi Loterïau Bach y Comisiwn Hapchwarae i gael manylion am yr holl ofynion trwyddedu a chofrestru.

Nid oes angen trwydded ar gyfer: 

  • loterïau anfasnachol achlysurol, sy'n cael eu cynnal fel arfer mewn digwyddiadau codi arian, fel ffeiriau ysgol. I fod yn loteri anfasnachol gymwys, rhaid i'r holl arian sy'n cael ei godi, gan gynnwys y ffioedd mynediad, lluniaeth ac ati, fynd at ddibenion heblaw am fudd preifat
  • loterïau cymdeithasau preifat, pan fydd yr unig bobl sy'n gallu cymryd rhan yn aelodau'r gymdeithas honno
  • loterïau gwaith, pan fydd yr unig bobl sy'n gallu cymryd rhan yn gweithio yn yr un lle
  • loterïau preswylwyr, pan fydd yr unig bobl sy'n gallu cymryd rhan yn byw yn yr un eiddo
  • loterïau cwsmeriaid, pan fydd yr unig bobl sy'n gallu cymryd rhan yn gwsmeriaid i fusnes penodol

Ewch i wefan y Comisiwn Hapchwarae neu cysylltwch â'r cyngor gan ddefnyddio'r manylion isod. 

Ffioedd

Mae'n rhaid i loterïau cymdeithasau bach y mae angen iddynt gofrestru â'r awdurdod lleol, dalu ffi statudol o £40 ac £20 ar gyfer ffi adnewyddu flynyddol (gyda sieciau'n daladwy i Gyngor Dinas Casnewydd), i'w thalu gyda'r cais. 

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm trwyddedu.