Cofrestru tyrau oeri

Gall cynnal a chadw gwael o systemau oeri gwlyb arwain at amodau a all achosi i glefyd y Llengfilwyr ddigwydd.

Os oes gennych reolaeth ar safle, mae gennych ddyletswydd o dan Hysbysiad o Dyrau Oeri a Rheoliadau Cyddwysyddion Anweddu 1992 i hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am fanylion y tyrau oeri a chyddwysyddion anweddu, ac eithrio pan fyddant yn cynnwys dŵr nad yw'n agored i'r aer, a phan nad yw'r dŵr a’r cyflenwad trydan yn gysylltiedig.

Rhaid i'r sawl sy'n rheoli eiddo roi gwybod am unrhyw ddyfeisiadau newydd neu unrhyw newidiadau i'r systemau presennol.

Gofynnwch am ffurflen gofrestru gan:

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR

Ffurflen gyswllt ar-lein 

Cydsyniad mud

Mae cydsyniad mud yn berthnasol, sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai'ch cais yn cael ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed gennym ni.

Mae'n ofyniad cyfreithiol ac er lles y cyhoedd bod Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn eich cais cyn i'r ddyfais gael ei lleoli yn yr adeilad.

Cysylltwch â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 10 diwrnod. 

Cofrestr gyhoeddus

Gellir gweld y gofrestr hysbysiadau yn y Ganolfan Ddinesig.

Gwnewch apwyntiad trwy ffonio 01633 656656 neu ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar-lein.

Diweddarir y gofrestr pan wneir unrhyw ychwanegiadau neu newidiadau.