Trwydded Sŵ

Os ydych chi eisiau rhedeg sw lle byddwch chi'n arddangos anifeiliaid gwyllt i'r cyhoedd am o leiaf saith diwrnod y flwyddyn, mewn unrhyw le nad yw'n syrcas neu’n siop anifeiliaid anwes, bydd angen i chi wneud cais am drwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded er mwyn i ni allu siarad am y gofynion ac anfon yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni er mwyn i chi allu gwneud cais am drwydded ar-lein.

Efallai y bydd ffioedd ac amodau ynghlwm wrth y drwydded i sicrhau bod y sŵ yn cael ei rhedeg yn iawn.

Gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol

Darllenwch fwy am amodau trwydded sŵ 

Gwnewch gais am drwydded sŵ