Trwydded siop anifeiliaid anwes

Os ydych chi'n rhedeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, rydych angen  trwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Gelwir unrhyw adeilad lle mae anifeiliaid yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid anwes yn 'siop anifeiliaid anwes', gan gynnwys eich cartref eich hun.

Ni allwch werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft, o stondin marchnad.  

Amodau  

Gall swyddogion y Cyngor gynnal arolygiad i wirio:

  • bod y llety yn addas ar gyfer yr anifeiliaid
  • eich bod yn darparu digon o fwyd a diod ac yn ymweld â'r anifeiliaid yn rheolaidd
  • eich bod yn cymryd rhagofalon rhesymol i atal lledaeniad clefydau heintus
  • nad yw mamaliaid yn cael eu gwerthu os ydynt yn rhy ifanc
  • bod gennych gynlluniau rhag tân ac argyfyngau eraill

Gall y cyngor ychwanegu amodau penodol eraill at eich trwydded.

Bydd y drwydded yn ddilys am flwyddyn mae ffi yn daladwy.

Gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol.

Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded er mwyn i ni allu siarad am y gofynion ac anfon yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni er mwyn i chi allu gwneud cais am drwydded ar-lein.

Gwnewch gais am drwydded siop anifeiliaid anwes

Dirwyon a chosbau

Os ydych yn rhedeg siop anifeiliaid anwes heb drwydded, neu’n torri telerau eich trwydded, gallech gael dirwy o hyd at £500 a'ch carcharu am hyd at dri mis.