Anifeiliaid sy'n perfformio

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Dinas Casnewydd os ydych chi'n arddangos, defnyddio neu hyfforddi anifeiliaid sy'n perfformio - er enghraifft, mewn syrcas, ar y teledu neu gynhyrchu ffilm, neu berfformiad theatr.

Bydd angen i chi roi manylion yr anifeiliaid a'r perfformiadau y byddant yn cymryd rhan ynddynt pan fyddwch yn gwneud cais.

Bydd angen i chi dalu ffi hefyd, edrychwch ar y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol

Os cymeradwyir eich cais, byddwn yn rhoi tystysgrif i chi yn cadarnhau bod gennych yr hawl i gadw'r anifeiliaid a'u defnyddio mewn perfformiad.

Sylwer, nid oes angen i chi gofrestru os ydych chi'n hyfforddi neu'n arddangos anifeiliaid i'w defnyddio gan luoedd milwrol neu'r heddlu, neu ar gyfer amaethyddiaeth neu chwaraeon.

Arolygiad

Gall swyddog heddlu neu swyddog awdurdodedig arall:

  • fynd i mewn i unrhyw eiddo lle cedwir yr anifeiliaid sy’n perfformio
  • archwilio’r eiddo i wirio bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn amodau addas sy'n bodloni safonau iechyd, lles a diogelwch
  • gofyn i chi gynhyrchu eich tystysgrif cofrestru

Dirwyon a chosbau

Os profir cwyn o greulondeb yn eich erbyn, gallwch:

  • gael eich gwahardd rhag arddangos neu hyfforddi anifeiliaid sy'n perfformio
  • orfod derbyn amodau ar eich cofrestriad
  • golli'ch cofrestriad

Gallwch gael dirwy o hyd at £2,500 os ydych yn arddangos neu’n hyfforddi unrhyw anifail sy'n perfformio heb gael eich cofrestru.

Efallai y cewch eich gwahardd rhag arddangos neu hyfforddi anifeiliaid sy'n perfformio.

Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded er mwyn i ni allu siarad am y gofynion ac anfon yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni er mwyn i chi allu gwneud cais am drwydded ar-lein.

Gwnewch gais am gofrestu anifeiliaid sy’n perfformio

Mae ffi yn daladwy, gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol