Hysbysiad digwyddiad dros dro

Mae angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro i awdurdodi digwyddiadau bach 'unigol' sy'n cynnwys gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer, fel: 

  • gwerthu alcohol
  • gweini alcohol i aelodau clwb preifat
  • darparu adloniant
  • gweini bwydydd neu ddiodydd poeth rhwng 11pm a 5am

Ni chaiff mwy na 499 o bobl fod yn rhan o'r digwyddiad ar unrhyw adeg benodol.

Rhaid gwneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad.

Mae ceisiadau sy'n cyrraedd rhwng 9 a 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad yn cael eu hystyried yn geisiadau hwyr neu'n 'Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro hwyr'.

Os bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn ardal sy'n cael ei llywodraethu gan ddau awdurdod lleol neu fwy, rhaid cyflwyno ceisiadau i bob awdurdod.

Rhaid talu ffi ymgeisio; gweler y ffioedd presennol.

Cyfyngiadau

Mae’n bosibl y bydd cyfnod y digwyddiad yn parhau am uchafswm o saith diwrnod. Dyma’r cyfnod pryd y gall gweithgareddau trwyddedadwy ddigwydd, ond nid oes rhaid iddynt ddigwydd yn ystod yr holl gyfnod saith diwrnod hwnnw, ac mae’n bosibl y bydd rhai gweithgareddau digwydd ar adegau gwahanol i rai eraill.

  • Ni chaiff mwy na 499, gan gynnwys staff a pherfformwyr fynychu’r digwyddiad ar yr un pryd. Mae’n rhaid cael Trwydded Safle ar gyfer 500 neu fwy o fynychwyr, gan gynnwys digwyddiad untro.
  • Ni ellir defnyddio’r un safle o dan TEN ar fwy na 15 achlysur mewn blwyddyn galendr. Gellid defnyddio dwy ystafell neu lawr yn yr un adeilad fel dau safle ar wahân - gan ganiatáu 30 digwyddiad fel cyfanswm, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau eraill yn berthnasol.
  • Mae’n rhaid bod 24 awr o leiaf rhwng pob digwyddiad ar unrhyw safle lle mai “defnyddiwr” y TEN yw’r un person neu bersonau “cysylltiedig”.
  • Er y gall pob TEN bara am gyfnod o hyd at saith diwrnod, ni ellir cwmpasu mwy na 21 diwrnod ar gyfer y safle dan sylw o fewn blwyddyn galendr. Os bydd digwyddiad yn dechrau ar un diwrnod ac yn gorffen y bore nesaf mae hyn yn ddau ddiwrnod allan o’r terfyn o 21 y flwyddyn.
  • Mae’n rhaid i unigolyn wneud cais am TEN
  • Os bydd yr unigolyn yn meddu ar Drwydded Bersonol gall wneud cais am hyd at 50 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro fesul blwyddyn galendr, gan gymryd eu bod yn defnyddio safleoedd gwahanol o dro i dro
  • Os nad yw’n meddu ar Drwydded Bersonol mae’n gyfyngedig i bump fesul blwyddyn galendr

TENs hwyr

Mae’n bosibl gwneud cais am Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro “hwyr” trwy roi rhwng rhybudd o rhwng pump a naw diwrnod gwaith, er bod terfyn o 10 o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro Hwyr bob blwyddyn galendr ar gyfer unigolyn sy’n meddu ar Drwydded Bersonol (allan o’i gyfanswm o 50), a dau (allan o’i gyfanswm o 5) i’r rhai nad ydynt yn meddu ar un. Yn wahanol i TENs Safonol, nid yw’n bosibl ychwanegu amodau i TEN Hwyr ac os bydd awdurdod yn gwahardd cais nid oes hawl i wrandawiad neu Apêl.

Gwneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod bod yr hysbysiad wedi cyrraedd trwy roi copi arnodedig o'r hysbysiad i ddefnyddiwr y safle.

Os derbynnir gwrthwynebiadau sy'n honni y byddai'r digwyddiad yn effeithio ar y pedwar amcan trwyddedu, rhaid cyflwyno hysbysiad gwrthwynebu o fewn 60 awr o dderbyn yr hysbysiad o'r digwyddiad dros dro.

Os bydd hysbysiad gwrthwynebu yn cyrraedd, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal gwrandawiad oni bai bod pob parti yn cytuno nad oes angen hynny.

Gwneir penderfyniad o leiaf 24 awr cyn dechrau'r digwyddiad.

Cysylltu

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y Tîm Trwyddedu.